Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Haf mwyaf llwyddiannus SHEP hyd yma yn ysgolion Sir y Fflint!
Published: 11/08/2021
Mae dros 160 o blant a phobl ifanc 5-12 oed wedi elwa o鈥檙 rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol (SHEP) yr haf hwn!听
Mae chwe ysgol wedi cadw eu drysau ar agor am dair wythnos gyntaf gwyliau鈥檙 ysgol, diolch i staff ymroddgar sydd wedi cydlynu rhaglen gynhwysfawr gydlynedig o weithgareddau i鈥檙 plant.
Mae Ysgol Treffynnon ac Ysgol Gynradd Queensferry, Glannau Dyfrdwy wedi cyflwyno rhaglenni yn llwyddiannus yn y gorffennol ac mae Ysgol Maesglas, Ysgol Maesglas Greenfield, Bryn Garth, Penyffordd, Ysgol Bryn Gwalia, yr Wyddgrug ac Ysgol Uwchradd Cei Connah wedi cyflwyno鈥檙 haf hwn am y tro cyntaf.听
Bu i鈥檙 plant oedd yn mynychu fwynhau brecwast, byrbryd a chinio poeth iach wedi eu darparu bob dydd gan Arlwyo NEWydd.听 Mae Bwyd a Hwyl SHEP yn canolbwyntio ar addysg maeth, ac yn annog plant i flasu bwydydd newydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau bwyd ymarferol trwy鈥檙 rhaglen.听
Bu i Arweinydd Cyngor Sir y Fflint y Cynghorydd Ian Roberts a鈥檙 Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid Claire Homard ymweld 芒 dwy ysgol oedd yn darparu SHEP:
yn Ysgol Maes Glas
听
ac Ysgol Uwchradd Cei Connah.听听
听 听 听听 |
 |
听
Dywedodd y Cynghorydd Roberts:
鈥淢ae SHEP wedi bod yn boblogaidd iawn yr haf hwn sy鈥檔 atgyfnerthu鈥檙 effaith gadarnhaol y gall gweithio mewn partneriaeth ei gael yn ein cymunedau. Nid yn unig bod y rhaglen wedi rhoi cyfleoedd i blant ddysgu a bod yn actif dros y gwyliau, ond mae nifer wedi gwneud ffrindiau newydd sydd mor bwysig i'w lles, yn arbennig ar 么l y 18 mis diwethaf.
鈥淓drychwn ymlaen at ehangu Bwyd a Hwyl SHEP i fwy o ysgolion yn Sir y Fflint yn 2022.鈥
Dywedodd Claire Homard:
鈥淢ae Hamdden Aura wedi chwarae rhan allweddol i gyflwyno gweithgareddau chwaraeon strwythuredig a gemau rhyngweithiol ym mhob ysgol. Cyflwynwyd cyfanswm o 17 o gampau gwahanol gyda staff Datblygu Chwaraeon yn hyfforddi bob sesiwn. Roedd osgoi鈥檙 b锚l, tenis a rygbi yn boblogaidd iawn eleni! Mae bob hyfforddwr wedi mwynhau鈥檙 sesiynau'n fawr ac yn hapus iawn gydag ymgysylltiad y plant.听
鈥淩oedd yr amrywiaeth o weithgareddau cyfoethogi oedd ar gael i'r plant eleni yn ardderchog ac yn cynnwys gwneud lampau lafa o boteli a ailgylchwyd, dreamcatchers, cylchoedd allweddi pren a phlaciau enwau graffiti ymysg eraill. Mae plant wedi cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar, dawns a gweithdai drymio. Roedd rhywbeth i bawb a digon o gyfleoedd i鈥檙 plant roi cynnig ar rywbeth newydd!
"Hoffwn longyfarch a dweud 鈥榙a iawn' wrth bawb oedd yn rhan o wneud y rhaglen Bwyd a Hwyl SHEP yr un mwyaf llwyddiannus erioed!鈥澨
Nid oedd rhieni yn gallu ymuno 芒鈥檜 plant ar y safle i gael prydau eleni oherwydd cyfyngiadau Covid. Fodd bynnag, i annog teuluoedd i gymryd rhan yn y gweithgareddau coginio gyda鈥檜 plant yn y cartref, bu i Arlwyo NEWydd ddarparu bocsys bwyd i bob plentyn ar ddiwrnod olaf y cynllun yn cynnwys chwe cherdyn rys谩it iach a blasus, ynghyd 芒鈥檙 holl gynhwysion.
听