每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyflwyniad Prosiect Cyfnewid Ieuenctid Japan 2016

Published: 02/11/2016

Rhoddodd chwech o fyfyrwyr Sir y Fflint a deithiodd i Japan ar gyfer Prosiect Cyfnewid Ieuenctid Optec Sir y Fflint 2016 gyflwyniad disglair ou profiadau. Yn ystod Noson Gyflwyno a gynhaliwyd gan y Cyng. Peter Curtis, Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, fe siaradodd y myfyrwyr am eu profiadau i gynulleidfa o fyfyrwyr eraill sy鈥檔 ystyried gwneud cais am le ar daith gyfnewid 2017. Aeth Kerina Perhat, Cameron Gemmill, Olivia Andringa, Ruth Stubbs, Lola Seddon a Megan Roberts i Japan am bythefnos ddiwedd mis Gorffennaf gan aros efo teuluoedd yn nhrefi Murata, Kawasaki a Zao. Bu iddyn nhw s么n am eu profiadau o fywyd pob dydd yn Japan, gan gynnwys byw efo teulu Japaneaidd, ac am y bwydydd y bu iddyn nhw flasu a鈥檙 llefydd y bu iddyn nhw ymweld. Bu iddyn nhw hefyd s么n am groesawu eu cyfeillion o Japan i Sir y Fflint a鈥檜 haddysgu am ddiwylliant Cymru, ac am y cyfeillgarwch a gr毛wyd yn ystod y prosiect cyfnewid pedair wythnos. Meddai鈥檙 Cyng. Peter Curtis, Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint: 鈥淢aer cysylltiadau sydd wedi eu meithrin drwyr prosiect cyfnewid hwn wedi rhoi cyfle ir ddwy wlad ddod at ei gilydd i gyfnewid syniadau ac i ddysgu am fywyd a diwylliant mewn gwlad arall. Maer prosiect cyfnewid ieuenctid wedi bod yn llwyddiant ysgubol i ddatblygu dealltwriaeth a goddefgarwch, yn enwedig o ran y genhedlaeth iau, ac mae hynny鈥檔 mynd i fod o fudd i gysylltiadau rhyngwladol yn y dyfodol.鈥 Meddai鈥檙 Cyng. Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint: 鈥淒ros y blynyddoedd diwethaf mae llawer o bobl ifanc wedi mwynhau ac elwa ar y profiadau a ddarperir drwy Brosiect Cyfnewid Ieuenctid Japan Optec Sir y Fflint, ac rydw i鈥檔 annog pobl eraill i ddysgu mwy am y rhaglen gyffrous hon a sut i gymryd rhan ynddi.鈥 Dangosodd y myfyrwyr luniau ou hymweliadau 芒 Tokyo, beddrodau, mannau o harddwch naturiol a lluniau eraill o鈥檜 hanturiaethau niferus, gan gynnwys gwneud papur traddodiadol a mynychu gwyliau. Cytunodd y rhieni a groesawodd fyfyrwyr Japaneaidd iw cartrefi fod y profiad hwn yn brofiad unwaith mewn oes ac maen nhwn argymell y rhaglen i unrhyw deulu arall sydd 芒 phlentyn efo diddordeb mewn gwneud cais ar gyfer prosiect cyfnewid 2017. Maer prosiect cyfnewid wedi ei gydlynu gan Gyngor Sir y Fflint ac yn agored i bob myfyriwr sy鈥檔 16-18 oed ar 1 Medi 2016 ac sy鈥檔 derbyn addysg lawn amser mewn ysgol neu goleg yn Sir y Fflint. Mae鈥檔 rhaid dychwelyd ceisiadau ar gyfer prosiect cyfnewid 2017 erbyn dydd Llun 21 Tachwedd. Am ragor o wybodaeth neu ffurflenni cais cysylltwch 芒 Karen Jones, Cydlynydd Prosiect Cyfnewid Ieuenctid Japan, ar 07759295984 neu karenjones@flintshire.gov.uk. Y Cadeirydd, y Cynghorydd Peter Curtis a鈥檙 Consort, Mrs Jennifer Curtis gyda fyfyrwyr Sir y Fflint