每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ysgol Nercwys

Published: 13/10/2016

Ar 18 Hydref bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint ystyried cynnydd y trafodaethau ynghylch adolygiad Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir Nercwys, syn rhan o raglen foderneiddio ysgolion y Cyngor. Ym mis Mehefin penderfynodd y Cabinet y gallai swyddogion gynnal ymgynghoriad sylfaenol ar yr ysgol gan fod nifer o faterion wedi codi sy鈥檔 gofyn am adolygiad, gan gynnwys nifer isel y disgyblion a chyflwr yr adeiladau. Mae cyfres o gyfarfodydd wedi eu cynnal gyda llywodraethwyr yr ysgol ar Awdurdod Esgobaethol er mwyn edrych ar yr holl ddewisiadau. Maer llywodraethwyr wedi dweud eu bod yn fodlon ystyried trefniadau ffedereiddio ffurfiol. Yng ngoleuni hyn, mae pob parti yn teimlo y byddain well peidio 芒 chynnal adolygiad am y tro er mwyn rhoi mwy o amser i ni edrych ar ddewisiadau ar gyfer cydweithredu a fyddain cefnogi rhwydwaith ysgol cynaliadwy. Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Sir y Fflint: 鈥淢ae gan y Cyngor Sir raglen foderneiddio ysgolion heriol. Maer Cyngor hefyd yn cydnabod bod adolygiadau o鈥檙 fath yn heriol ac yn sensitif i bawb dan sylw. Rydym ni鈥檔 croesawu parodrwydd y llywodraethwyr i edrych ar ffedereiddio. Rydym ni鈥檔 gwybod y gall adolygiadau achosi ansicrwydd yng nghymuned yr ysgol ac felly maen bwysig ein bod ni鈥檔 cynorthwyo鈥檙 ysgol i sicrhau ei bod yn canolbwyntio ar barhau i wella鈥檙 ddarpariaeth addysg.