每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Canlyniadau Addysg 2015/16

Published: 13/10/2016

Yn ei gyfarfod ddydd Mawrth 18 Hydref bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint nodi canlyniadau asesiadau disgyblion ar draws pob cyfnod allweddol. Gellir nodi gwelliannau ym mhob cyfnod allweddol. Mae鈥檙 cynnydd wedi bod yn arbennig o galonogol o ran addysg gynradd ac yng Nghyfnod Allweddol 3 ond maer Cyngor yn cydnabod yr heriau i wella ymhellach. Dyma drosolwg or canlyniadau fesul Cyfnod Allweddol: Y Cyfnod Sylfaen - roedd dangosydd y cyfnod hwn (pan fydd disgybl yn cyflawni canlyniad 5 neu uwch) yn 86.9%. Er bod hyn yn ostyngiad o 0.1% o gymharu 芒鈥檙 flwyddyn flaenorol, mae wedi cynyddu 2.4% ers 2014. O gymharu ag awdurdodau lleol gogledd Cymru, mae Sir y Fflint yn yr ail safle. Cyfnod Allweddol 2 鈥 Mae canlyniadau Sir y Fflint ar hyn o bryd yn hynod gadarnhaol, gyda chynnydd o 2.2% yn ystod 2015 i 90.1%, sy鈥檔 golygu mai Sir y Fflint yw鈥檙 cyngor syn perfformio orau yn y gogledd mewn perthynas 芒 dangosydd pwnc craidd y cyfnod allweddol hwn. Cyfnod Allweddol 3 - unwaith eto, perfformiodd Sir y Fflint yn dda gyda dangosydd o 88.4% - cynnydd o 1.3% o gymharu 芒鈥檙 flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn dangos gwelliant blwyddyn ar 么l blwyddyn o 2.1% ers 2014, syn adlewyrchun dda ar y gwaith syn cael ei wneud yn ein hysgolion uwchradd i wella canlyniadau dysgwyr. Cyfnod Allweddol 4 (TGAU) 鈥 gwelwyd cynnydd o 0.7% eleni i 61.3% ar y dangosydd allweddol, sy鈥檔 rhoi Sir y Fflint yn yr ail safle o gymharu 芒 siroedd eraill y gogledd. Maer canlyniadau hyn yn seiliedig ar arholiadau allanol ac ar hyn o bryd yn rhai dros dro. Cyfnod Allweddol 5 (Safon Uwch) - unwaith eto, maer data hwn yn ddata dros dro ac yn dangos bod nifer y disgyblion sy鈥檔 derbyn dwy radd Safon Uwch wedi cynyddu 1.0% i 98.1%. Fodd bynnag, yn y dyfodol byddwn yn canolbwyntio ar gynyddu canran y disgyblion sy鈥檔 ennill graddau Safon Uwch C ac uwch. Dwedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint: 鈥淣id oes lle i fod yn hunanfodlon ac rydym ni鈥檔 ymwybodol iawn bod ar rai ysgolion angen cymorth i fireinio eu systemau tracio i gaur bwlch rhwng perfformiad a ragwelir a pherfformiad terfynol. Rydym ni鈥檔 parhau i ymrwymo i wella perfformiad er mwyn sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd. 鈥淢ae gan wasanaeth addysg Sir y Fflint nifer o gryfderau ac rwyf yn falch o ddweud y bu cryn egni a phenderfyniad i fynd ir afael 芒 materion ac i wella perfformiad a deilliannau ar gyfer ein dysgwyr ymhellach. 鈥淢aer Cyngor yn cynnal rhaglen o foderneiddio ysgolion ac mae ei ymrwymiad ir rhaglen hon yn parhau i fod yn gryf. Maen awyddus i ddarparur cyfleoedd gorau posibl i ddysgwyr gyflawni eu potensial llawn mewn ysgolion syn addas at y diben ac sy鈥檔 darparu addysg or radd flaenaf yn yr 21ain ganrif.鈥