Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwella ein gwasanaethau ailgylchu a chasglu sbwriel
Published: 12/10/2016
Bydd preswylwyr Cyngor Sir Y Fflint yn manteisio yn fuan ar wasanaethau
ailgylchu a chasgliadau sbwriel a fydd yn cefnogi pobl sydd yn gydwybodol yn eu
harferion ailgylchu ac yn helpu鈥檙 rheiny sydd ddim yn cymryd rhan yn llawn i
wneud mwy.
Cynhelir Gweithdy Trosolwg a Chraffu鈥檙 Amgylchedd arbennig ddydd Mawrth, 11
Hydref, ar gyfer Cynghorwyr Sir i drafod yn llawn y gwelliannau arfaethedig.
Yn 2011, newidiodd y Cyngor yn sylfaenol y ffordd yr oedd yn casglu gwastraff y
cartref o ganlyniad i dargedau cenedlaethol llym a osodwyd gan Llywodraeth
Cymru i leihau lefel o wastraff cartref rhag mynd i鈥檙 tirlenwi.
Mae鈥檙 targedau wedi bod yn cynyddu bob blwyddyn ac erbyn 2025, bydd rhaid i 70%
o holl wastraff a gesglir gan y Cynghorau yng Nghymru gael eu hailgylchu.
Gellir codi t芒l o 拢200 i bob Cyngor am bob tunnell o wastraff sydd yn mynd dros
ei darged tirlenwi, a 拢200 ychwanegol am bob tunnell sydd o dan y targed
ailgylchu. I鈥檞 roi mewn cyd-destun, os bydd y Cyngor yn methu鈥檙 targedau hyn o
1% yn unig o gyfanswm y gwastraff y mae鈥檔 ei gasglu (85,000 tunnell), yna
gallai gael ei gosbi hyd at 拢340,000.
Mae preswylwyr Sir y Fflint wedi derbyn y sialens hon, ac mae鈥檙 targedau a
osodwyd ar gyfer 2012/13 a 2015/16 (52% a 58%) wedi cael eu diwallu, ac rydym
ar y ffordd i ddiwallu targed 2019/20 (64%). Fodd bynnag, mae鈥檙 targed ar
gyfer 2025 (70%) yn fwy heriol, a bydd angen gwneud gwelliannau pellach i
wasanaethau casglu gwastraff.
Dros y pum mlynedd diwethaf, mae cartrefi yn Sir y Fflint wedi cynyddu oddeutu
5000 ac mae gwasanaethau casglu gwastraff cyfredol yn nes谩u at ei gapasiti.
Bydd niferoedd o gartrefi yn cynyddu ymhellach dros y pum mlynedd nesaf, ac
mae鈥檙 cynigion a ystyrir bellach wedi鈥檜 llunio i ddarparu atebion cynaliadwy
heb gynyddu nifer o gerbydau casglu gwastraff sydd ar ein ffyrdd.
Mae prydlesau鈥檙 Cyngor o鈥檙 fflyd gyfredol o gerbydau ailgylchu yn dod at ei
ddiwedd, ac yn dilyn treial llwyddiannus, argymhellwyd bod y Cyngor yn archebu
Cerbydau Ailgylchu newydd (RRV), gan ddefnyddio Cyfalaf Rhaglen Newid
Llywodraeth Cymru, yn barod i鈥檞 gyflwyno ym mis Medi 2017.
Mae RRV yn gerbydau ysgafn, yn fwy effeithlon o ran tanwydd a chydag adrannau
gwahanol sydd yn caniat谩u casglu mwy o ddeunyddiau ailgylchadwy, ynghyd 芒
gwastraff bwyd, mewn un ymweliad. Drwy beidio 芒 newid pa mor aml y gwneir y
casgliadau, byddai eu cyflwyno yn helpu i gynyddu cyfaint ac ansawdd deunyddiau
ailgylchadwy iw casglu, ond hefyd ar yr un pryd yn lleihau costau tanwydd a
hefyd yn cynorthwyor Cyngor i leihau ei 么l troed carbon.
Mae targed o 90% i holl ddeunyddiau a waredir mewn Canolfannau Ailgylchu
Gwastraff y Cartref angen ei ddiwallu hefyd.
Yn gynharach eleni, gan ymateb i safbwyntiau preswylwyr lleol, cymeradwyodd
Cabinet y Cyngor y ddarpariaeth o bum Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref
lleol. Mae gwaith dylunio yn cael ei wneud i welliannau ar gyfer safleoedd ym
Mwcle a鈥檙 Wyddgrug a fydd yn darparu cysondeb o ran y safon o gyfleusterau, a
chyfleoedd ailgylchu a fydd yn cael eu cynnig yn Greenfield a Sandycroft.
Rhagwelir y bydd y gwaith hwn, sydd hefyd yn cael ei ariannu gan Gyfalaf
Rhaglen Newid Llywodraeth Cymru yn dechrau yn y Flwyddyn Newydd. Mae
cynlluniau i ddatblygu cyfleuster gwell i gymunedau Fflint a Chei Connah yn
cael eu datblygu, ond nes bydd safle wedi ei ganfod a gwaith datblygu wedi鈥檌
gwblhau, bydd y safleoedd presennol yn parhau ar agor.
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet ar gyfer Strategaeth Wastraff:
鈥淢ewn cyfnod lle mae toriadau cenedlaethol parhaus i gyllidebau yn rhoi pwysau
ar wasanaethau rheng flaen hanfodol megis y gwasanaethau cymdeithasol ac
addysg, ni allwn fforddio cael ein cosbi am fethu 芒 diwallu targedau ailgylchu
a thirlenwi.
Croesawir y cyllid un tro hwn gan Llywodraeth Cymru, ac mae鈥檔 bwysig ei fod yn
cael ei wario鈥檔 ofalus ac mewn modd a fydd yn darparu buddion mwyaf arwyddocaol
i鈥檙 Cyngor, cymunedau lleol a phreswylwyr.
Hoffwn ddiolch yn fawr i鈥檙 preswylwyr hynny sydd yn ailgylchu rhan fwyaf neu eu
gwastraff i gyd, ond mae dal llawer mwy iw wneud. Mae gennym oll ran i
chwarae a bydd y gwelliannau arfaethedig hyn ir gwasanaeth yn helpu iw wneud
yn haws i bawb wneud eu rhan.