Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Pen-blwydd 10oed Wythnos Fusnes Sir y Fflint ar y gweill
Published: 29/09/2016
Mae digwyddiad blaenllaw Cyngor Sir Y Fflint, Wythnos Fusnes Sir y Fflint yn
dathlu ei 10fed pen-blwydd 鈥 wedi cael ei lansio yng Ngholeg Cambria.
Cyn yr agoriad swyddogol, bu i dros 200 gyfranogwyr o ledled y sir fynychu
digwyddiad brecwast Cynghrair Merswy a Dyfrdwy.
Agorodd yr Arglwydd Barry Jones, Llywydd y Cynghrair Merswy a Dyfrdwy ac
Wythnos Fusnes Sir y Fflint y brecwast a鈥檙 arddangosfa drwy groesawu鈥檙 holl
gynrychiolwyr. Siaradodd yn frwdfrydig am y digwyddiad:
鈥淢ae鈥檔 anrhydedd mawr, fel gwladgarwr lleol, i fod yma i ddathlu llwyddiant 10
mlynedd Wythnos Fusnes Sir y Fflint 鈥 hwn yw鈥檙 digwyddiad orau o鈥檙 fath yng
Nghymru, a Sir Y Fflint yw鈥檙 sir a weinyddir ac arweinir orau yng Nghymru.
Mae鈥檔 rhaid i mi s么n am y Cynghorydd Butler, Aelod Cabinet dros Ddatblygu
Economaidd sydd ag ysbryd anorchfygol a dyfalbarhad, a鈥檙 Prif Swyddog dros
Gymuned a Menter, Clare Budden sydd yn benderfynol a chraff.
鈥淢ae鈥檙 perthnasau a chynghreiriau sydd wedi eu datblygu dros y 10 mlynedd
diwethaf, a鈥檙 twf busnes newydd a鈥檙 potensial mawr i allforio yr ydym wedi ei
weld yn datblygu wedi bod yn destament i鈥檙 ysbryd entrepreneuraidd sy鈥檔
gweithio鈥檔 galed yn y rhanbarth. Bydd yr ysbryd hwn yn ein rhoi mewn lle da
fel mae鈥檙 Cynghrair Merwy a Dyfrdwy yn parhau i weithio gyda鈥檔 partneriaid yng
Nghymru a dros y ffin yn Lloegr. Rydym yn cyfarch Vauxhall, Toyota ac Airbus,
ond mae diolch i chi am ein hadferiad 鈥榮teil phoenix鈥 - y Busnesau bach a
chanolig, entrepreneuriaid, ymgynghorwyr, cludwyr, gan enwi dim ond ychydig.
Ar 么l mwynhau brecwast, diolch i Praxis am y nawdd, aeth y cynrychiolwyr ir
neuadd arddangos ller oedd dros 60 o arddangoswyr gyda鈥檜 stondinau. Mae鈥檙
digwyddiad yn croesawu dros 800 o ymwelwyr drwy鈥檙 dydd yn rheolaidd.
Hefyd, mae鈥檙 arddangosfa yn cynnal seminarau gyda phresenoldeb da, mae un a
enwir yn 鈥淢enter Gymdeithasol, cwrdd 芒鈥檙 cefnogwr鈥, sy鈥檔 dod 芒 chefnogwyr
mentrau cymdeithasol ynghyd fel bod mentrau cymdeithasol yn Sir Y Fflint yn
cael rhannu eu harbenigedd i鈥檞 helpu i dyfu a ffynnu er budd y rhanbarth yn
gyfan gwbl.
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor
Sir y Fflint, sydd hefyd yn Gadeirydd Cynghrair Merswy a Dyfrdwy:
鈥淯nwaith eto, mae鈥檔 bleser gweld gymaint o fusnesau lleol yn dod at ei gilydd
i鈥檙 digwyddiad hwn sydd yn bartneriaeth lwyddiannus rhwng y sector gyhoeddus
a鈥檙 sector breifat. Mae Cynghrair Merswy a Dyfrdwy yn unigryw 鈥 hwn yw鈥檙 unig
gynghrair trawsffiniol ac mae ganddo economi dirgrynol ar draws pob sector.
Rydym yn ymgyrchu am rwydwaith gwell gyda Rail Track 360 a dau gynnig twf yng
Ngogledd Cymru a Swydd Gaer, ac rydym yn edrych i gael mwy o gyswllt o ran
cyfleoedd addysg a chyflogaeth.
Dywedodd Paul Islip, Westbridge Furniture Designs a oedd yn un o noddwyr yr
arddangosfa:
鈥淢ae Westbridge yn falch iawn o fod y prif noddwyr i arddangosfa Wythnos Fusnes
Sir y Fflint 2016, ac rydym yn falch o weld y digwyddiad yn tyfu o nerth i
nerth bob blwyddyn. Byddwn yn annog holl fusnesau lleol sydd heb arddangos neu
fynychu i ddod i鈥檙 digwyddiad llwyddiannus yn y dyfodol.鈥
Mae Natalie Wood, Rheolwr Gyfarwyddwr Letterbox Recruiting yn un o鈥檙
arddangoswyr sy鈥檔 么l am y drydedd flwyddyn. Dywedodd Natalie:
鈥淢ae gennym swyddfeydd ar draws Gogledd Cymru, ac rydym yn gweld digwyddiadau
fel hyn yn ddefnyddiol iawn i rwydweithio gyda chwmn茂au eraill a gwneud
cysylltiadau newydd. Mae busnes yn bendant yn ffynnu, ac rydym yn awyddus
iawn i wneud busnes gyda chwmn茂au lleol eraill a chadw talent leol yn yr
ardal.鈥