Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cymunedau Taclusaf 2016
Published: 19/09/2016
Mae enillwyr pob categori ar gyfer Cymunedau Taclusaf Sir y Fflint 2016 wedi
derbyn eu gwobrau mewn
seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yn Neuadd y Sir yn ddiweddar.
Yr enillydd ar gyfer y pentref taclusaf gyda phoblogaeth o dan 1,000 oedd
Llanfynydd gyda Bretton Lane yn
ail. Dyfarnwyd y drydedd wobr i Lanasa.
Caerwys oedd enillydd y gymuned daclusaf gyda phoblogaeth o dros 1000 ac o dan
5000, gyda
Higher Kinnerton yn ennill yr ail wobr. Daeth Llaneurgain yn drydydd.
Yr Wyddgrug oedd enillydd y wobr Canol Tref Taclusaf, gyda Threffynnon yn ail,
ac aeth y drydedd wobr i鈥檙 Wyddgrug.
Enillwyd gwobr yr yst芒d henoed daclusaf gan Meadow Rise, Penyffordd, gyda鈥檙 ail
wobr yn mynd i
Heol y Dderwen, Coed-llai. Daeth Ffordd Llaneurgain yn drydydd a chafodd
tystysgrif deilyngdod ei dyfarnu i Bennetts
Lane, Higher Kinnerton.
Dywedodd Cadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Peter Curtis:
鈥淢ae nifer a safon y ceisiadau wedi bod yn wych eleni. Rwy鈥檔 siwr ei bod wedi
bod yn anodd i鈥檙 beirniaid,
Fred Gillmore a Les a Sue Starling, wrth ddewis yr enillwyr.
鈥淢aer pwyslais ar wneud cymunedau yn llefydd gwell i fyw ynddynt, ar gyfer
pobl ac ar gyfer bywyd gwyllt.
Y bobl sy鈥檔 cymryd rhan ar noddwyr syn gwneud y gystadleuaeth yn bosib, ac
eleni y rhain oedd Airbus, Cymdeithas Tai Clwyd Alyn, Grwp Cynefin, Tesco,
Toyota a Warwick
Chemicals. Rydym yn ddiolchgar iawn am eu cefnogaeth barhaus.鈥
Treuliodd y beirniaid bedwar diwrnod yn ymweld 芒r cymunedau a gystadlodd, a
chr毛wyd
argraff arbennig arnynt gan y gwaith a oedd wedi mynd i greu gerddi ysgolion.
Y gwobrau oedd 拢100
am y wobr gyntaf, 拢75 am yr ail wobr a 拢50 am y drydedd wobr.
Maer enillwyr eraill wedi eu rhestru isod.
Gardd Gymunedol/Ardal Bywyd Gwyllt Taclusaf
Y wobr gyntaf: Chwarel Bryn y Baal
Yr ail wobr: Swinchiard Brook, Y Fflint
Y drydedd wobr: Ardal Bywyd Gwyllt Leadmills, Yr Wyddgrug
Tystysgrif Teilyngdod Gardd Capel Quaystone, Cei Connah
Gwobr arbennig y Beirniaid
Canmoliaeth Uchel Ysgol Gynradd Brynffordd (拢40 o dalebau Tesco)
Tystysgrif Teilyngdod i bob un or canlynol (拢20 o dalebau Tesco):
Ysgol Gynradd Derwen, Higher Kinnerton
Ysgol Gynradd yr Esgob, Caerwys
Ysgol GG Gwernymynydd
Llun: Y Cadeirydd, y Cynghorydd Peter Curtis, gydar enillwyr a鈥檙 noddwyr