Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Digonedd o anturiaethau yn sioe鈥檙 sir
Published: 29/07/2016
Digonedd o anturiaethau yn sioe鈥檙 sir
Mae Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Sir y Fflint yn paratoi ar gyfer Sioe
Amaethyddol Flynyddol Sir Ddinbych a Sir y Fflint eleni ar ddydd Iau, Awst
18fed, a bydd gweithgareddau yn cael eu cynnal i ddathlur Flwyddyn o Antur.
Bydd trac beics BMX, heriau beicio, cerdded Nordig a chwrs rhwystrau ymysg y
llu o weithgareddau a fydd ar gael ym mhabell y Cynghorau, sydd iw gweld wrth
ymyl prif gylch y sioe.
Bydd y Gwasanaethau Cefn Gwlad yn trefnu gweithgareddau hwyl i鈥檙 teulu a bydd
yna gyfle i gael tynnu eich llun mewn canw yn erbyn cefndir lliwgar. Bydd yna
amrywiaeth o arddangosfeydd a gwybodaeth i ymwelwyr.
Bydd Planhigfa Triffordd o Sir y Fflint hefyd ar faes y sioe gydau
harddangosfeydd blodau.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Hugh Evans OBE: 鈥淩ydym
wrth ein bodd i fod yn gallu arddangos ychydig on gwaith i ymwelwyr unwaith
eto eleni.
鈥淢ae Croeso Cymru wedi dynodi 2016 yn Flwyddyn Antur, ac mae鈥檙 ddau gyngor yn
manteisio ar y cyfle i dynnu sylw at y nifer o weithgareddau y gall pobl gymryd
rhan ynddynt yn ein rhanbarth ac annog pobl i fynd i grwydro鈥檙 ddwy sir a chael
eu hantur eu hunain.
鈥淏yddem yn annog pobl i alw heibio a gweld beth sydd gennym i鈥檞 gynnig鈥.
Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Aaron Shotton: 鈥淢ae hon yn
enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth, dyma鈥檙 seithfed flwyddyn y mae鈥檙
ddau Gyngor wedi bod yn bresennol ar faes y sioe.
鈥淵n hanesyddol, Sioe Dinbych a Fflint yw un or digwyddiadau pwysicaf a mwyaf
poblogaidd ar y calendr amaethyddol ac fe ddaw鈥檙 torfeydd o bob rhan o Ogledd
Cymru a thu hwnt. Maen llwyfan gwych i ni hyrwyddo ein cynghorau ac rydym wrth
ein bodd yn cefnogi trefnwyr y sioe eto
eleni.
I gael rhagor o wybodaeth am y sioe, ewch i: www.denbighandflintshow.com