Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
SHARP: Cam 2
Published: 08/07/2016
Bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter Cyngor Sir y Fflint yn
ystyried cynigion ar gyfer datblygu 40 o gartrefi Cyngor newydd ar 5 safle yn
yr Wyddgrug, Coed-llai a Chei Connah dan Gam 2 o Raglen Tai ac Adfywio
Strategol (SHARP) y Cyngor mewn cyfarfod ddydd Mercher, 13 Gorffennaf.
Mae cynigion manwl wedi鈥檜 cyflwyno ar gyfer cartrefi newydd ar safleoedd yn
Ysgol Delyn, yr Wyddgrug (16); Heol y Goron (5) a Maes y Meillion, Coed-llai
(8); Redhall (5) a The Dairy, Ffordd yr Wyddgrug (6) yng Nghei Connah.
Bydd pob ty鈥檔 cael ei gynllunio i gydymffurfio 芒 Safon Tai Sir y Fflint y
Cyngor. Mae鈥檙 safon yn cydymffurfio 芒 Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth
Cymru a byddant yn ganllaw i gynllun a manyleb yr holl dai newydd a fydd yn
cael eu darparu drwyr rhaglen hon. Mae hyn yn cynnwys cynllun mewnol o safon
uchel cyson ar gyfer tai, safonau uchel o effeithlonrwydd ynni a lle parcio
digonol.
Dywedodd y Cyng. Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor:
鈥淢ae鈥檙 5 safle hwn yn ffurfio鈥檙 camau allweddol nesaf yn ein rhaglen
uchelgeisiol i adeiladu tai a bydd yn ychwanegu at gynnydd sylweddol syn cael
ei wneud yn y datblygiadau sydd ar waith ar hyn o bryd yn The Walks yn y Fflint
ac yn Nghei Connah ar safle hen Ysgol Custom House Lane, lle mae disgwyl i鈥檙
cartrefi Cyngor newydd cyntaf mewn ers dros 20 mlynedd gael eu cwblhau cyn y
Nadolig.鈥
Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, yr Aelod Cabinet Tai:
鈥淩wyn falch iawn or cynnydd syn cael ei wneud i adeiladu tai i ateb y galw
mawr sydd am dai newydd a bod uchelgeisiaur Cyngor i ddarparu mwy o dai
cymdeithasol a fforddiadwy i bobl Sir y Fflint yn cael eu gwireddu.鈥
鈥淏ydd Polisi Gosodiadau Lleol yn cael ei ddatblygu i bob un o鈥檙 cynlluniau
arfaethedig er mwyn sicrhau bod y nifer fwyaf posibl o gyfleoedd am dai i bobl
leol.鈥