Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Parc yn cael cerfiadau tywodfaen newydd
Published: 30/06/2016
Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint, busnesau lleol, clybiau chwaraeon a
gwirfoddolwyr wedi dod ynghyd i ariannu cerfiadau tywodfaen newydd ym Mharc
Gwepra.
Mae鈥檙 8 cerfiad yn darlunio dail o goed sydd i鈥檞 gweld yn y parc, ac maent yn
costio 拢300 yr un i鈥檞 gwneud au gosod. Maent nawr yn ffurfio llwybr 鈥榞wyllt-
ddail鈥 yn ardal chwarae鈥檙 parc.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros
yr Amgylchedd:
鈥淕wych yw bod Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint wedi gallu casglu鈥檙 arian i
noddi 8 o鈥檙 cerfiadau hyn gan fusnesau a chlybiau lleol. Fel cynrychiolydd ar
ran y Cyngor ac un o鈥檙 noddwyr hefyd, FC Nomads, hoffwn annog pawb i ddod am
dro i鈥檙 parc i weld yr ychwanegiadau trawiadol diweddar.鈥
Dywedodd Tim Johnson, Ceidwad Cefn Gwlad i Gyngor Sir y Fflint:
鈥淩oeddem wedi llwyddo i gael cyllid gan saith ffynhonnell leol wahanol a hoffwn
ddiolch i bob un ohonynt am eu cefnogaeth. Bydd y cerfiadau tywodfaen hyn o
ddail yn galluogi plant i weld y dail yn agos ac yn fanwl, a gobeithio y bydd
hyn yn eu hannog i anturio drwyr lle chwarae a鈥檙 parc yn gyffredinol.鈥
Mae gan bob cerfiad noddwr penodol: Y Contractwr Gwaith Daear a Ffensio, Arwyn
Parry; FC Nomads; Old Hall Caf茅; Cyfeillion Parc Gwepra; Garnett-Hughes; Gwely
a Brecwast Oakenholt Farm a Chontractwyr Gwaith Daear a Ffeiriau Bach Sharland
Brothers. Noddodd Harry Sharland ail garreg hefyd, er cof am Brian Allsopp a
oedd yn un or rhai a sefydlodd Wyl Glannau Dyfrdwy ym Mharc Gwepra, a daeth 芒
chymaint ir ardal a鈥檙 gymuned. Bu farw Brian yn 1990 tra roedd yn perfformio
ym mhar锚d yr wyl.
Dangosodd astudiaeth ddiweddar, a oedd yn edrych ar gelf yn y parc ac a
gomisiynwyd gan Gyfeillion Parc Gwepra a鈥檙 Gwasanaeth Cefn Gwlad, fod lle i
annog celf o bob math. Gallai hyn ymestyn o gerflun i ddawns a ch芒n a gallai
gynrychioli them芒u lleol a chenedlaethol. Mae鈥檙 prosiect hwn yn gam cychwyn
tuag at hynny.
O鈥檙 chwith i鈥檙 dde: Y Cyng. Ian Dunbar, Cyfeillion Parc Gwepra; Les a Jennifer
Hulme, Gwely a Brecwast Oakenholt Farm; Marion Lockwood, Old Hall Caf茅; Tim
Johnson, Cyngor Sir y Fflint; Mary Caveill, Old Hall Caf茅; Harry Sharland,
Sharland Funfairs; Jenny Eccles, Cyfeillion Parc Gwepra ac Arwyn Parry