Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Maer dewis yn ddiddiwedd
Published: 29/06/2016
Mae Cymunedau yn Gyntaf Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn cydweithio 芒
Phartneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach Gogledd a Chanolbarth Cymru a Theatr Clwyd
ar raglen fusnes arloesol ar gyfer ysgolion cynradd.
Maer prosiect Dewis Ddiddiwedd, a ysbrydolwyd gan Dragons Den ai dreialu
yn Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug, wedi ei anelu at ymgysylltu 芒 phlant 9-11 oed i
ddatblygu hyder, siarad cyhoeddus, mathemateg a Saesneg mewn ffordd hwyliog
gyda鈥檙 nod yn y pen draw o鈥檜 paratoi i gynnig syniad busnes i Angylion sydd i
gyd yn entrepreneuriaid busnesau lleol sy鈥檔 gwirfoddoli eu hamser.
Cymerodd ysgolion St Ethelwolds yn Shotton ac Ysgol Maes Glas ym Maes-glas ran
yn y fenter. Cafodd y gweithdai eu cyflwyno mewn dwy sesiwn dros gyfnod o
wythnos rhwng 10 a 17 Mehefin.
Adeiladodd y sesiwn ar eu sgiliau a gwaith t卯m ac fei cyflwynwyd yn yr ysgol
gyda dau o berfformwyr o Theatr Clwyd. Yn dilyn ymlaen o sesiwn 1 fe weithiodd
y plant yn y dosbarth i ymarfer eu hachos yn barod ar gyfer eu cyflwyniad yr
wythnos ganlynol.
Cefnogwyd sesiwn 2 unwaith eto gyda鈥檙 ddau berfformiwr yn Theatr Clwyd.
Roedd y plant yn cyflwyno eu hachos busnes gan dderbyn adborth cadarnhaol gan
yr entrepreneuriaid busnes.
Yr Angylion oedd Christine Sheibani, Cyfarwyddwr AD Comtek Network Systems,
Dave Fildes Rheolwr Gyfarwyddwr dfs4, Becky Stark Cyfarwyddwr Stark Export
Focus Limited a Sam Freeman Cyfarwyddwr Cyfathrebu i Theatr Clwyd.
Dywedodd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Sir y Fflint:
鈥淐anlyniad y prosiect oedd creu hyder, meddwl yn greadigol, gwaith t卯m,
cyfranogiad effeithiol a hunan-gymhelliant. Mae wedii anelu at ddisgyblion
blwyddyn 6 ac maen weithdy rhagarweiniol delfrydol i entrepreneuriaeth. Maer
prosiect wedi bod mor llwyddiannus y bydd yn cael ei gyflwyno i 10 o ysgolion
iau mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf ym mis Medi.鈥
Meddai Emyr John o Theatr Clwyd, a luniodd y prosiect ar 么l i Cymunedau yn
Gyntaf gysylltu ag ef:
鈥淢ae hon yn enghraifft o sut y gellir defnyddio theatr fel offeryn, nid yn unig
i ddysgu, ond i ysbrydolir genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid.鈥
Dywedodd Rheolwr Ymgysylltu Cyflogwyr Ymgyrraedd yn Ehangach Gogledd a
Chanolbarth Cymru, Paula Griffiths:
鈥淭rwyr bartneriaeth hon gyda Theatr Clwyd a Chymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint,
rydym yn defnyddio celfyddydau i godi dyheadau pobl ifanc a鈥檜 grymuso ac i greu
eu syniadau eu hunain wrth archwilio cyfleoedd i symud ymlaen i Fusnes ac
Addysg Uwch mewn ffordd arloesol a llawn hwyl.鈥
Ynghyd 芒r gweithdy ar ddydd Gwener, 17 Mehefin, cafodd y plant y cyfle i weld
To Dream Again gan Toby Hulse. Maer ddrama, i blant 7-11 oed, wedi鈥檌
hysbrydoli gan ddrama A Midsummer Night鈥檚 Dream gan William Shakespeare.
Ariannwyd y prosiect gan Cymunedau yn Gyntaf - rhaglen a ariennir gan
Lywodraeth Cymru 鈥 sy鈥檔 gweithio mewn partneriaeth 芒 Phartneriaeth Ymgyrraedd
yn Ehangach Gogledd a Chanolbarth Cymru, a ariennir gan Gyngor Cyllido Addysg
Uwch Cymru. Sefydlwyd Ymgyrraedd yn Ehangach yn 2002 fel rhaglen
gydweithredol a hirdymor i Gymru gyfan, i dorri rhwystrau canfyddedig i lawr
ac ehangu mynediad i sgiliau addysg uwch a lefel uwch.
AR SET MUCH ADO ABOUT NOTHING鈥
Disgyblion o Ysgol St Ethelwolds gyda (yn y cefn) eu hathrawes, Christine
Sheibani Cyfarwyddwr AD Comtek Network Systems, Dave Fildes Rheolwr Gyfarwyddwr
dfs4 a Sam Freeman Cyfarwyddwr Cyfathrebu i Theatr Clwyd. Nia Davies yn y rhes
flaen mewn du yw un or perfformwyr o Theatr Clwyd.
Disgyblion o Ysgol Maes Glas (yn y cefn) gyda鈥檜 hathrawes, Christine Sheibani
Cyfarwyddwr AD Comtek Network Systems, Dave Fildes Rheolwr Gyfarwyddwr dfs4 a
Sam Freeman Cyfarwyddwr Cyfathrebu i Theatr Clwyd. Nia Davies yn y du ar y dde
yw un or perfformwyr o Theatr Clwyd.