Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Helpu pawb i gael y gorau o鈥檜 bywydau
Published: 27/06/2016
Beth am fanteisio ar wefan newydd ar gyfer Cymru?
Bydd adnodd newydd ar y we sy鈥檔 hyrwyddo lles ledled Cymru yn cael ei lansio鈥檔
ddiweddarach y mis hwn.
Caiff Dewis Cymru (Cymraeg www.dewis.cymru Saesneg
www.dewis.wales ) yn cael ei lansio鈥檔 swyddogol yng
Nghynhadledd Genedlaethol Gwasanaethau Cymdeithasol yn Venue Cymru ar 30
Mehefin.
Bydd y wefan yn darparu gwybodaeth i bobl ledled gogledd Cymru am weithgareddau
a chymorth lles, yn seiliedig ar leoliad eu cod post a鈥檜 hanghenion.
Mae gwybodaeth ar gael am bopeth o ddosbarthiadau canolfannau hamdden i grwpiau
cymorth iechyd meddwl a llawer mwy, ac os nad ydych yn defnyddio鈥檙 rhyngrwyd
holwch am Ddewis Cymru yn eich llyfrgell, eich canolfan hamdden neu unrhyw
Gyngor Gwirfoddol Sirol.
Mae鈥檙 wefan wedi鈥檌 datblygu yng ngogledd Cymru gan dros 800 o sefydliadau gan
gynnwys y GIG, gwirfoddolwyr, sefydliadau dielw, elusennau, llyfrgelloedd,
canolfannau hamdden, gwasanaethau cymdeithasol a darparwyr gofal.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyngor Sir y Fflint:
鈥淩ydym am wneud popeth y gallwn i sicrhau fod pobl yn ymwybodol o鈥檙 holl
wasanaethau a鈥檙 cymorth sydd ar gael iddyn nhw.
鈥淕all rhywbeth mor agos at adref a lleol 芒 chlwb cinio neu fore coffi fod o
gymorth enfawr i bobl a fyddai, fel arall, yn unig 鈥 mae sicrhau fod pobl yn
cael eu cyfeirio at wasanaethau felly yn hynod bwysig.
鈥淎c ar ben arall y raddfa, rydym hefyd am weithio gydag asiantaethau partner
mwy ym maes iechyd, y trydydd sector ac awdurdodau lleol i sicrhau ein bod yn
gwneud popeth y gallwn ledled gogledd Cymru.鈥
Am fwy o wybodaeth, chwiliwch neu porwch drwy www.dewis.cymru a www.dewis.wales
.