每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mae teithio ar fws yng Ngogledd Cymru ar fin bod yn llawer haws 

Published: 14/07/2021

O ddydd Sadwrn (17 Gorffennaf) bydd un tocyn yn ddilys ar fysiau ar draws Gogledd Cymru.听听

Ar 么l i deithwyr brynu eu tocyn 1bws gan yrrwr bws ar eu taith gyntaf y diwrnod hwnnw, bydd y tocyn yn ddilys i deithio ar fysiau ar draws Gogledd Cymru.听

Cost tocyn oedolyn fydd 拢5.70, plentyn (neu berson ifanc gyda Fy Ngherdyn Teithio) 拢3.70, a bydd deiliaid pas bws gostyngol Lloegr a鈥檙 Alban hefyd yn talu 拢3.70.听听

Mae tocyn teulu ar gael am 拢12.听

Un o鈥檙 rhesymau pam fod rhai yn gyndyn o roi cynnig ar ddefnyddio鈥檙 bws yw dryswch o ran pa docyn i鈥檞 brynu.听 Faint mae鈥檔 gostio? Pryd gellir ei ddefnyddio?听 Pwy sy鈥檔 gweithredu鈥檙 bysiau?听 Fydd fy nhocyn yn ddilys?听 Mae鈥檙 holl gwestiynau hyn yn rhwystro pobl rhag defnyddio'r bws.听

Mae鈥檔 ddigon hawdd gyda 1bws.听 Un tocyn, am y diwrnod cyfan, yn ddilys ar holl fysiau Gogledd Cymru yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys M么n, Wrecsam - ac ar fysiau o Ogledd Cymru i Gaer, Whitchurch a Machynlleth.听

Mae bysiau ar draws mwyafrif y rhanbarth ac mae modd crwydro Arfordir Gogledd Cymru, Eryri, Bryniau Clwyd, Dyffryn Dyfrdwy.听

Dywedodd Aelod Cabinet Sir y Fflint dros Wasanaethau Stryd, y Cynghorydd Glyn Banks:

鈥淩wy鈥檔 falch iawn ein bod yn cefnogi鈥檙 fenter hon, a fydd yn gymorth i annog pobl leol ac ymwelwyr i ddefnyddio ein rhwydwaith fysiau helaeth.听听

鈥淢ae鈥檙 fenter yn wych i gael pobl yn 么l ar y bysiau ac i agor cefn gwlad Gogledd Cymru am yr haf mewn modd sy鈥檔听 diogelu鈥檙 amgylchedd.听

鈥淢ae鈥檔 enghraifft wych o fuddion gweithio mewn partneriaeth rhwng awdurdodau lleol, gweithredwyr bysiau a Thrafnidiaeth Cymru. Dyma鈥檙 tro cyntaf y bu modd i ni ddarparu a hyrwyddo un tocyn dydd sengl sydd ar gael ar bob gwasanaeth ac mae'r diolch yn ddyledus i weithredwyr mawr a bach am eu hymrwymiad i wella mynediad ar fws.鈥澨

Mae gwybodaeth am amserlenni鈥檙 holl fysiau yng Ngogledd Cymru ar gael ar-lein ar neu neu drwy ffonio 0800 464 00 00.听

听Mae 1Bws yn ddilys ar yr holl wasanaethau bysiau lleol sy鈥檔 gweithredu yng Ngogledd Cymru (siroedd Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys M么n a Wrecsam) ac eithrio gwasanaeth 28 rhwng yr Wyddgrug a Fflint.听听

Nid yw鈥檔 ddilys ar wasanaethau twristiaeth sy鈥檔 cael eu gweithredu gan fysiau gyda tho agored, ar wasanaethau coets National Express a gwasanaethau parcio a theithio.