Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cefnogaeth lles i bobl ifanc
Published: 13/07/2021
Yn ddiweddar mae Gwasanaeth Ieuenctid Sir y Fflint wedi cynnal ymgynghoriad ar y cyd 芒 Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam i ganfod effeithiau Covid-19 ar fywydau pobl ifanc.听听
Mae pobl ifanc ar draws y ddau Gyngor wedi mynegi pryderon ynglyn 芒'u hiechyd meddwl, addysg, cyflogaeth ac incwm.
Mae鈥檙 pandemig wedi cael effaith negyddol ar berthnasau cymdeithasol i rai pobl ifanc gyda'u ffrindiau a'u teuluoedd. Mae pobl ifanc yn teimlo fod y pandemig wedi effeithio鈥檔 fawr ar eu hiechyd meddwl ac maent yn teimlo nad oeddent yn gwybod ble i fynd am gymorth a chyngor yn ystod y cyfnodau clo.
Dywedodd, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid, y Cynghorydd Ian Roberts:
听鈥淢ae鈥檔 bwysig nodi, yn ystod y 12 mis diwethaf, fod addysg, athrawon a staff ysgol wedi mynd y tu hwnt i'r gofyn i gadw ein hysgolion ar agor i blant gweithwyr allweddol a darparu addysgu ar lein i bobl ifanc.
听鈥淔odd bynnag, mae鈥檔 amlwg o ganlyniadau'r arolwg, nad oedd bobl ifanc bob amser yn gwybod sut neu o ble i gael cefnogaeth.听 I鈥檙 perwyl hwn, mae'r Gwasanaeth Ieuenctid wedi datblygu taflenni i bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol sy鈥檔 eu cefnogi a fydd yn eu cyfeirio at wybodaeth a chymorth.鈥
Ewch i ble mae gwybodaeth, gan gynnwys dolenni at y ddwy daflen.
Mae gwybodaeth hefyd ar gael ar 听ac ar .听 听 听 听 听 听 听 听 听 听听
听