Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ysgol Uwchradd Castell Alun
Published: 12/07/2021
Cafodd Cynghorwyr ac uwch swyddogion Sir y Fflint daith o amgylch y bloc newydd yn Ysgol Uwchradd Castell Alun yn ddiweddar i weld sut roedd yn dod yn ei flaen.听听
Mae鈥檙 Cyngor yn buddsoddi bron i 拢5 miliwn o鈥檌 rhaglen gyfalaf yn Ysgol Uwchradd Castell Alun, ar gyfer bloc Celf a Dylunio a Thechnoleg tri llawr, newydd a fydd yn cynnwys ystafelloedd dosbarth arbenigol gyda mannau addysgu cyffredinol, swyddfeydd a thoiledau. Mae鈥檙 prosiect hefyd yn cynnwys dymchwel y bloc technoleg presennol i greu mannau parcio ychwanegol a gosod to newydd ar yr adran gerdd bresennol.
Ers eu hymweliad diwethaf ym mis Rhagfyr, mae鈥檙 prosiect wedi elwa o gyllid ychwanegol o 拢475,000 gan grant atgyweirio a chynnal a chadw ysgolion Llywodraeth Cymru.
Bydd y gwaith hwn yn creu gofod addysgu newydd sy'n ysbrydoli myfyrwyr ac athrawon yn ogystal 芒 darparu cyfleoedd cyflogaeth a dysgu i'r gymuned.听 Cyfanswm y buddsoddiad yw ychydig mwy na 拢8.2 miliwn.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Christine Jones, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint:
鈥淩wy鈥檔 croesawu鈥檙 cyllid ychwanegol hwn ar gyfer Ysgol Uwchradd Castell Alun a fydd yn ategu鈥檙 rhaglen fuddsoddi fawr hon a ariennir gan y Cyngor, sydd eisoes ar waith. Byddwn ni bellach yn gallu disodli鈥檙 Llain Pob Tywydd presennol ac ailwampio鈥檙 ardal gerdd 鈥 bydd hyn yn cwblhau鈥檙 ystod o welliannau a drefnwyd ar gyfer yr ysgol ac yn gwella darpariaeth rhannau pwysig o鈥檙 cwricwlwm, fel Addysg Gorfforol a Cherddoriaeth.鈥澨 听
Dechreuodd y contractwyr, Willmott Dixon, weithio ym mis Hydref 2020 ac mae disgwyl i鈥檙 gwaith gael ei gwblhau erbyn dechrau 2022. Hyd yma, mae鈥檙 gwaith wedi cynnwys gosod y sylfaeni ar gyfer yr adeilad newydd, gwaith draenio, tarmacio a gosod llinellau ar y maes parcio bysiau.
Meddai Colin Ellis, Pennaeth yr ysgol:
鈥淢ae wedi bod yn gyffrous gweld y bloc dysgu newydd yn datblygu dros yr ychydig fisoedd diwethaf.听 Mae wedi cael ei adeiladu i safon uchel a bydd yn darparu cyfleusterau modern o'r radd flaenaf a'r cyfleoedd dysgu gorau i'n dysgwyr a鈥檙 gymuned ehangach. Rwy鈥檔 edrych ymlaen at weld yr adeilad wedi鈥檌 gwblhau a dechrau ei ddefnyddio.鈥
Meddai Anthony Dillon, rheolwr gyfarwyddwr i Willmott Dixon yng Ngogledd Cymru:听
鈥淩ydym yn falch iawn o fod yn gweithio ochr yn ochr 芒 Chyngor Sir y Fflint i greu'r cyfleusterau cyffrous a phwysig hyn a fydd yn rhoi'r cyfleoedd dysgu gorau oll i ddisgyblion a'r gymuned leol.
鈥淢ae Ysgol Uwchradd Castell Alun, ei disgyblion a鈥檙 holl gymuned leol wedi bod mor groesawgar ac yn rhan fawr o'r prosiect o鈥檙 cychwyn. Rydym yn credu mewn darparu adeiladau gwych sy'n cryfhau cymunedau ac mae hwn yn brosiect a gyflawnwyd yn wir ar gyfer pobl leol gan bobl leol. Rydym wedi buddsoddi mwy na 拢4.9m o wariant y prosiect hyd yma gyda phartneriaid cadwyn gyflenwi leol, yn ogystal 芒 chreu cyfleoedd cyflogaeth lleol newydd.鈥

Yn y llun o鈥檙 chwith i鈥檙 dde: Damian Hughes 鈥 CSFf, y Cyng Gladys Healey, gweithiwr Willmott Dixon (WD), Eloise Winkworth 鈥 Disgybl Blwyddyn 10, Aled Roberts 鈥 WD, Colin Ellis 鈥 Pennaeth,听gweithiwr (WD), Jayden Munetsi 鈥 Disgybl Blwyddyn 10,听gweithiwr (WD), Idris Williams 鈥 Llywodraethwr Ysgol Uwchradd Castell Alun,听gweithiwr (WD), Claire Homard - CSFf,听gweithiwr (WD), y Cyng Christine Jones听
听
听
听
听
听