每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Lloches Dynion

Published: 13/06/2016

Maer Uned Diogelwch Cam-drin Domestig (DASU) yn Sir y Fflint wedi agor y drysau yn ddiweddar ir lloches gyntaf yng Ngogledd Cymru yn benodol ar gyfer dynion syn dioddef cam-drin domestig. Mae DASU wedi gweithion agos gyda Chymdeithas Dai Wales & West a Chyngor Sir y Fflint sydd wedi darparu yr eiddo ar cyllid ar gyfer y prosiect. Mae gan DASU lawer o flynyddoedd o brofiad yn darparu gwasanaethau cymorth arbenigol i oroeswyr camdriniaeth domestig corfforol, emosiynol, ariannol a rhywiol, gan gefnogi goroeswyr ers 1989. Maer partneriaid wedi dod ynghyd i ddatblygu鈥檙 prosiect pwysig hwn mewn ymateb uniongyrchol i adborth gan ddynion syn dioddef cam-drin domestig. Bydd datblygu鈥檙 lloches yn llenwi bwlch yn y ddarpariaeth, yn cynyddu dewisiadau a gwella diogelwch a lles dynion yn yr ardal. Gyda DASU eisoes yn rheoli lloches i ferched yn llwyddiannus, pan gysylltodd y sefydliad 芒 Chyngor Sir y Fflint a Chymdeithas Dai Wales & West gydar awgrym o agor lloches i ddynion, cafwyd ymateb cadarnhaol a rhagweithiol gan bawb dan sylw. Yn ogystal 芒 llety diogel, bydd dynion hefyd yn gallu cysylltu 芒鈥檙 nifer o wasanaethau cefnogi a gynigir yn y siop un stop camdriniaeth domestig fel cyngor cyfreithiol, cwnsela arbenigol a gwaith grwp therapiwtig. Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet dros Dai Cyngor Sir y Fflint: 鈥淢ae Cyngor Sir y Fflint yn parhau i fod yn gryf yn ei safiad bod cam-drin a cham-drin domestig, yn erbyn dynion neu ferched, yn anghywir ac maen rhaid mynd ir afael ag o. Rydym yn credu bod gan bawb yr hawl i fyw mewn diogelwch ac yn rhydd rhag ofn.鈥 Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr Cymdeithas Dai Wales & West: 鈥淩ydym yn awyddus iawn i helpu i gefnogir rhai sydd angen lloches. Maen bwysig cydnabod bod dynion hefyd yn dioddef cam-drin domestig ac rydym yn falch o weithio mewn partneriaeth 芒 Chyngor Sir y Fflint a DASU er mwyn helpu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol iw bywydau.鈥 Mae Carl Sargeant, Aelod Cynulliad dros Alun a Glannau Dyfrdwy, yn ymgyrchydd ers amser hir yn erbyn cam-drin domestig ac ef unwaith eto yw鈥檙 gweinidog syn gyfrifol am y mater hwn fel rhan oi r么l newydd fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Blant a Chymunedau. Dywedodd: 鈥淢aen wych gweld Gogledd Cymru yn arwain y ffordd gydar lloches cyntaf yn y rhanbarth i ddynion syn dioddef cam-drin domestig. Rwyf wrth fy modd gydag agwedd rhagweithiol Cyngor Sir y Fflint, Cymdeithas Dai Wales & West a DASU i fodlonir angen hwn. 鈥淩wyn gwybod o weithio gyda DASU dros y blynyddoedd y byddant yn gwneud gwahaniaeth go iawn a chadarnhaol i gymaint o ddynion sydd angen eu cymorth a chefnogaeth arbenigol. Gall cam-drin domestig effeithio ar unrhyw un ac maen wych i wybod bod cymorth ymarferol ar gael yn Sir y Fflint rwan ar gyfer dioddefwyr or ddau ryw.鈥 I gael mynediad ir lloches neu i gael cyngor a chymorth cyfrinachol am ddim os ydych yn dioddef o gamdriniaeth domestig, ffoniwch Llinell Gyngor Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan ar 0808 8010 800 neu鈥檙 Mankind Initiative 01823 334244. 9292.jpg Or chwith: Sian Hughes 鈥 Swyddog Ariannu a Monitro DASU, Lisa Pearson 鈥 Swyddog Contract ac Adolygu Cyngor Sir y Fflint, Cyng Aaron Shotton - Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Helen Brown - Aelod Cabinet dros Dai, Sandra Vedovotto - Rheolwr Prosiect DASU, Becky Tullett, Swyddog Contract ac Adolygu Cyngor Sir y Fflint, Will Brooks - Swyddog Tai WWHA, Deb Ward - Rheolwr Tai, Emma Glover - Ymgynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig DASU