Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2022/23
Published: 06/07/2021
Gofynnir i Aelodau鈥檙 Cabinet adolygu鈥檙 Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2022/23 yn ei gyfarfod ddydd Mawrth 13 Gorffennaf.
Mae鈥檙 Cyngor yn adolygu ac yn diweddaru鈥檙 Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn flynyddol, a chyn cynllunio鈥檙 gyllideb flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol ddilynol.
Mae鈥檙 Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn rhagweld yr adnoddau fydd y Cyngor ei angen i fodloni ein sail costau sy鈥檔 newid yn gyson, ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Mireinio ein rhagolygon yw鈥檙 cam cyntaf i gynllunio ein gofynion cyllidebol ar gyfer y flwyddyn ariannol canlynol. Mae鈥檙 rhagolwg diwygiedig yn dangos ein bod yn debygol o gael isafswm gofyniad cyllidebol o 拢16.750m ychwanegol o adnoddau refeniw ar gyfer 2022/23.听
Dywedodd Paul Johnson, Aelod Cabinet Cyllid, Gwerth Cymdeithasol a Chaffael Sir y Fflint:
鈥淒yma鈥檙 cam cyntaf o ddatblygu ein cyllideb ar gyfer 2022/23. Yn ystod mis Medi a Hydref, bydd Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn cael eu gwahodd i adolygu鈥檙 pwysau costau, a鈥檙 cyfleoedd ar gyfer rheoli cost ac effeithlonrwydd, o dan eu cylch gorchwyl.
鈥淩ydym oll yn ymwybodol, ar 么l degawd o dan-gyllido llywodraeth leol, nad oes gennym arbedion costau o raddfa ar 么l, ac fel Cyngor, rydym wedi glynu at yr egwyddor na fyddwn yn lleihau cyllideb ar gyfer unrhyw wasanaeth i鈥檙 pwynt lle fydd y gwasanaeth yn anniogel. Wrth wneud hynny, ni fyddwn yn bodloni ein safonau ansawdd a/neu鈥檔 methu diwallu ein dyletswyddau statudol.鈥
Unwaith fydd y gwaith hwn wedi鈥檌 gwblhau, bydd y Cyngor mewn safle cryf i gyfathrebu i Lywodraethau, partneriaid lleol a budd-ddeiliaid a鈥檙 cyhoedd sut fydd cyllideb gytbwys, gyfreithiol a diogel yn cael ei gyflawni ar gyfer 2022/23. Mae ymgysylltiad eisoes yn digwydd gyda Llywodraeth Cymru trwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ac ar wah芒n.
Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett:
鈥淩ydym hefyd wedi penderfynu na ddylai cynnydd blynyddol yn Nhreth y Cyngor fod yn fwy na 5%. Dylai鈥檙 ffigwr hwn gael ei drin fel uchafswm ac nid fel hawl i godi incwm lleol. Mae Treth y Cyngor mewn perygl o ddod yn anfforddiadwy ar gyfer lleiafrif cynyddol, ac mae鈥檙 Cyngor hwn yn credu y dylai鈥檙 Llywodraethau fod yn gyfrifol am gyllid llawn a theg ar gyfer llywodraeth leol angen, ac nid talwyr treth lleol.鈥
Felly, bydd angen i Setliad Llywodraeth Leol ar gyfer 2022/23 鈥 a osodir ac ariennir gan Lywodraeth Cymru 鈥 fod yn ddigonol.
听