每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gorfodaeth Gwastraff Ochr ac Ymwybyddiaeth Amgylcheddol 

Published: 07/07/2021

Pan y byddant yn cyfarfod yn ddiweddarach y mis hwn, bydd gofyn i aelodau鈥檙 Cabinet gymeradwyo ailgyflwyno gorfodaeth gwastraff ochr ar gasgliadau ymyl palmant ar gyfer gwastraff gweddilliol ym mis Medi 2021.

O fis Mawrth 2020, ataliwyd gorfodaeth gwastraff ochr oherwydd Covid-19. Ers hynny, mae鈥檙 Cyngor wedi casglu dros 3,000 o dunelli ychwanegol o wastraff gweddilliol o dai preswyl - cynnydd o 12% o鈥檌 gymharu 芒 llynedd.听 Oherwydd targedau ailgylchu cenedlaethol llym wedi eu gosod gan Lywodraeth Cymru, ni all y dirywiad yma mewn perfformiad parhau.听

Mae hefyd pryder cynyddol ynglyn 芒 thipio anghyfreithlon a thaflu sbwriel ynghyd 芒 materion amgylcheddol eraill.听

Er mwyn mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 materion pwysig yma, mae Sir y Fflint eisiau ailgyflwyno gorfodaeth gwastraff ochr ac ymdrin 芒鈥檙 cynnydd mewn troseddau amgylcheddol i geisio lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a gwella Ansawdd yr Amgylchedd Lleol (LEQ).

Dylai fod digon o le i aelwydydd allu rhoi eu gwastraff gweddilliol (h.y. gwastraff na ellir ei ailgylchu) yn eu bin olwynion.听 Mae casgliadau ailgylchu pob wythnos, a nid oes cyfyngiad ar faint o ailgylchu y gall preswylwyr eu rhoi allan i鈥檞 casglu.

Mae yna leiafrif o aelwydydd nad ydynt yn gwneud defnydd o鈥檙 gwasanaeth ailgylchu, ac nid yw hyn yn dderbyniol am sawl rheswm, gan gynnwys:

鈥 Y problemau amgylcheddol y mae gwastraff ochr yn ei achosi pan mae bagiau yn torri a鈥檙 sbwriel yn gwasgaru ar hyd y strydoedd;

鈥 Y golled o adnoddau gwerthfawr a all gael eu hailgylchu i greu cynnyrch newydd;

鈥 Y gost ariannol o waredu gwastraff gweddilliol a鈥檙 golled posib o incwm wrth werthu deunyddiau ailgylchadwy.

Dywedodd Y Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd Sir y Fflint:

鈥淢ae鈥檙 broses gorfodaeth ar gyfer gwastraff ochr yn dilyn dull tri cham, gyda鈥檙 pwyslais cychwynnol ar hysbysu ac addysgu preswylwyr o鈥檙 ffordd gywir i gyflwyno eu gwastraff a鈥檜 hailgylchu. Os nad oes gwelliant i鈥檞 weld ar 么l y cam cyntaf, yna cymerir camau ffurfiol am barhau i beidio 芒 chydymffurfio.

鈥淢ae tystiolaeth wedi dangos i ni fod y cam addysgu yn cael effaith arwyddocaol ar warediad gwastraff preswylwyr.听 Rydyn ni felly yn cynnig ein bod yn ystyried opsiynau ar gyfer r么l ddynodedig i drefnu a chynnal ymgyrchoedd gwella鈥檙 amgylchedd o fewn cymunedau lleol.鈥

Cyn ailgyflwyno unrhyw orfodaeth gwastraff ochr, bydd ymgyrch yn cael ei chynnal ar draws y sir er mwyn hysbysu preswylwyr.听