Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Sir y Fflint yn llwyddiannus gydag apeliadau cynllunio yn cael eu diystyru
Published: 01/07/2021
Mae Cyngor Sir Y Fflint wedi llwyddo i amddiffyn dwy ap锚l yn erbyn ei benderfyniad i wrthod caniat芒d cynllunio yn ddiweddar ar gyfer ymestyn oriau gweithredol mewn cwmni llogi peiriannau ger Yr Wyddgrug
Roedd Thomas Plant Hire o Llwybr Hill, Caerwys wedi cyflwyno dau gais cynllunio i Gyngor Sir y Fflint yn ddiweddar er mwyn rheoleiddio gweithgaredd heb awdurdod ar y safle.听 Yr oriau gwaith y cytunwyd arnynt yw 06:00 鈥 18:00 dydd Llun i ddydd Sadwrn, a dim gweithrediadau o gwbl ar ddydd Sul na Gwyl Banc.
Roedd y safle yn arfer bod yn Ganolfan Arddio Sundawn a Chaffi Teapot.听 Cafodd cais cynllunio i newid defnydd o鈥檙 safle ei wrthod gan Sir y Fflint ond caniatawyd yn dilyn ap锚l gan yr Arolygydd Cynllunio yn 2016.听听
Ers hynny, mae cyfres o gwynion wedi eu derbyn ar 么l nifer o achosion o dorri鈥檙 amodau a osodwyd gan yr Arolygydd Cynllunio.听 Er gwaethaf cyflwyno Hysbysiad Torri Amodau mewn perthynas 芒 thorri鈥檙 oriau gwaith, mae鈥檙 perchnogion yn parhau i weithredu y tu allan i鈥檙 oriau y cytunwyd arnynt ac mewn ymdrech i reoleiddio gweithrediadau, cyflwynwyd dau gais ar wah芒n i newid yr oriau gweithredu.听听
Roedd y cais cyntaf yn cynnig newid oriau gwaith i 05:00-23:00 saith diwrnod yr wythnos, gyda cherbydau angen cyrraedd a gadael y safle ar gyfer gwaith brys i wasanaethau cyhoeddus y tu allan i鈥檙 oriau hynny. Roedd yr ail gais yn bwriadu galluogi cerbydau i gyrraedd a gadael y safle rhwng 18:00-20:00 awr yn unig dydd Llun 鈥 dydd Sadwrn a dim o gwbl ar ddydd Sul a Gwyliau Banc. Cafodd y ddau gais eu gwrthod gan Sir y Fflint ac yn dilyn hynny apeliwyd i鈥檙 Arolygiaeth Gynllunio.
Yn y ddau achos, roedd yr Arolygydd Cynllunio yn cytuno gyda phenderfyniad y Cyngor a chafodd yr apeliadau eu diystyru 鈥 y cyntaf ym mis Ionawr 2020 a鈥檙 mwyaf diweddar ym mis Mai eleni.
Yn y penderfyniad mwyaf diweddar, daeth yr arolygydd i鈥檙 casgliad:
鈥...mae pryderon yn fy arwain at gasgliad y byddai gan y datblygiad canlyniadol y potensial i gael effaith niweidiol sylweddol ar amodau byw meddianwyr eiddo preswyl cyfagos, gan roi ystyriaeth benodol i lefelau effaith swn ac ymyrraeth gyffredinol.鈥
Dywedodd Aelod Cabinet Cynllunio, yr Amgylchedd a鈥檙 Economi, Sir y Fflint, y Cynghorydd Christopher Bithell:
鈥淢ae Sir y Fflint yn cymryd barn a phryderon preswylwyr o ddifrif 鈥 yn arbennig pan mae鈥檔 dod i geisiadau cynllunio.听听
鈥淢ae鈥檙 penderfyniadau llwyddiannus hyn gan yr Arolygydd Cynllunio yn dangos fod Sir y Fflint yn gywir i ystyried pryderon preswylwyr lleol a gweithredu yn unol 芒 hynny.听 Mae鈥檔 orfodol i ni wneud popeth y gallwn ei wneud i sicrhau nad yw amodau niweidiol yn effeithio ar unrhyw un a all effeithio ar eu hansawdd bywyd.
鈥淢ae hyn yn anfon neges glir bod diffyg cydymffurfio ag amodau cais cynllunio yn gwbl annerbyniol a byddwn yn gweithredu pan fydd amodau yn cael eu torri.鈥
听