每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyfle i bobl leol helpu i greu basged ddelfrydol o gynnyrch Sir y Fflint i鈥檞 chyflwyno fel gwobr

Published: 28/06/2021

Mae trigolion Sir y Fflint yn cael eu gwahodd i awgrymu pa rai o鈥檙 bwydydd a diodydd ardderchog a gynhyrchir yn y sir ddylid eu cynnwys mewn basged leol 鈥榙delfrydol鈥, a gyflwynir fel gwobr mewn cystadleuaeth.

Gyda鈥檙 tywydd yn cynhesu dros fisoedd yr haf, rwan yw鈥檙 amser perffaith i brofi rhai o鈥檙 danteithion newydd blasus sydd ar gael yn yr ardal.

Mae Cyngor Sir y Fflint yn lansio ymgyrch i ddangos pam nad oes raid teithio鈥檔 bellach na ffiniau鈥檙 sir i ganfod peth o鈥檙 bwyd a diod gorau.

Ym masged 鈥榙delfrydol鈥 Sir y Fflint, y nod yw cynnwys rhai o brif gynhyrchion y sir ac mae trigolion lleol yn cael eu gwahodd i helpu i鈥檞 chreu trwy yrru mewn eu hargymhellion.

Ynghyd ag argymhellion pobl leol bydd Naomi Spaven, sy鈥檔 rhedeg y cyfrif bwyd a diod Little Welsh Foodie ar Instagram, yn cyfrannu o鈥檌 gwybodaeth arbenigol am gynhyrchion Sir y Fflint i helpu i greu鈥檙 fasged derfynol.

Meddai Naomi: 鈥淩wan, fwy nag erioed, mae鈥檔 hanfodol bwysig cefnogi busnesau bwyd a diod Sir y Fflint a鈥檙 cynhyrchion gwych sydd ganddynt ar gyfer ein bwrdd.

鈥淲rth ddwyn ynghyd y danteithion gorau sydd ar gael yn Sir y Fflint, bydd pobl yn gweld mor ffodus yr ydym o gael cynhyrchion mor ardderchog ar garreg ein drws.

鈥淕wahoddwn bawb i anfon eu hargymhellion fel y gallwn greu鈥檙 fasged ddelfrydol.鈥

Bydd cynnwys llawn y fasged yn cael ei ddatgelu yn ystod yr wythnosau nesaf. Yna rhoddir yr eitemau a ddewisir mewn tair basged a gyflwynir fel gwobrau mewn cystadleuaeth ar draws cyfryngau cymdeithasol Archwilio Sir y Fflint / Explore 每日大瓜.听

Gofynnir i ddarllenwyr 鈥榟offi鈥 a rhannu un o鈥檙 postiadau a welant ar y cyfryngau cymdeithasol hyn. Yna bydd eu henwau yn yr het ar gyfer dewis yr enillwyr.

Bydd angen i鈥檙 tri enillydd gasglu eu basedi o Siop Fferm Lesters ym Mwcle.

Meddai Prif Swyddog Cynllunio, Amgylchedd ac Economi Sir y Fflint, Andrew Farrow: 鈥淏oed ffrwythau a llysiau blasus o ffermydd y sir neu felysion a chynhyrchion eraill ardderchog, mae gan Sir y Fflint ddewis rhyfeddol o fwyd a diod.

鈥淲rth greu鈥檙 fasged, ein nod yw dangos mor wych yw cynnyrch yr ardal ac annog pobl i fynd allan a gweld mannau newydd yn y sir na chawsant efallai y pleser o fod ynddynt o鈥檙 blaen.

鈥淥nd ni allwn greu鈥檙 fasged heb help y cyhoedd ac rydym yn awyddus iawn i weld awgrymiadau trigolion Sir y Fflint.鈥

I gynnig bwydydd a diodydd i鈥檞 cynnwys ym masged 鈥榙delfrydol鈥 Sir y Fflint, gyrrwch neges ar dudalennau Archwilio Sir y Fflint / Explore 每日大瓜 ar y cyfryngau cymdeithasol - ar Instagram neu ar Facebook.

Rhaid derbyn yr awgrymiadau erbyn 5pm Ddydd Mercher 7 Gorffennaf.

Hamper 2.JPG