每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Busnes Neriesha yn ESGYN!

Published: 08/06/2016

Mae Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint yn parhau i weithion galed i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant i bobl leol. Maer rhaglen ESGYN yn gynllun gan Lywodraeth Cymru i ddarparu, 5,000 o gyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth ledled Cymru erbyn diwedd 2017, ar gyfer pobl sy鈥檔 byw mewn cartrefi lle nad oes unrhyw un yn gweithio. Nid ywr rhaglen wedii hanelu at y rhai sydd allan o waith dros dro, ond yn hytrach mae鈥檔 canolbwyntio ar unigolion sydd wedi treulio mwy na chwe mis allan o waith. Mae ar gyfer y bobl hynny syn wynebur rhwystrau mwyaf i gael eu cyflogi, syn cynnwys rhieni sengl ifanc, oedolion ag ychydig neu ddim cymwysterau ffurfiol, pobl sydd 芒 chofnodion cyflogaeth gwael a phobl anabl. Dengys ymchwil fod pobl mewn cartrefi 芒鈥檙 nodweddion hyn yn llawer llai tebygol o gael gwaith nag eraill. Ymunodd Neriesha Coathupe 芒 rhaglen Esgyn ym mis Mehefin y llynedd. Mae hin byw yn Shotton ac wedi bod yn derbyn budd-daliadau am dros 3 blynedd. Roedd ganddi brofiad blaenorol o gael ei chyflogi fel gwarchodwr plant, mae ei phlant wedi tyfu fyny ac roedd hi鈥檔 teimlo ei bod yn barod i sefydlu ei busnes gwarchod plant o鈥檌 chartref ei hun. Fe aeth y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Ddatblygu Economaidd i ymweld 芒 Neriesha yn ddiweddar a dywedodd: 鈥淢ae hwn yn gynllun gwych gan Lywodraeth Cymru ac mae鈥檙 Cyngor yn fwy na pharod i鈥檞 gefnogi - cael pobl i mewn i waith ac mae hyfforddiant yn flaenoriaeth allweddol gan y Cyngor. Dymunwn y gorau i Neiesha yn ei menter newydd.鈥 Wrth s么n am ei hamser ar raglen ESGYN, dywedodd Neriesha: 鈥淢ae wedi bod yn ffordd hir i ddechrau fy musnes gwarchod plant ond gyda chefnogaeth a chymorth gan fy mentor ESGYN, rwyf wedi gallu dyfalbarhau a chyflawni fy mreuddwyd. Mae yna lawer o sefydliadau allan yna ond mae ESGYN yn unigryw gydai chefnogaeth un i un, ac mae hyn wedi bod yn allweddol i mi ddechrau fy musnes. Os hoffai rywun ragor o wybodaeth, ffoniwch 0787 6133340.鈥 Os oes gennych ddiddordeb ymuno 芒 rhaglen Esgyn a鈥檆h bod yn cwrdd 芒r meini prawf a nodir isod, mae croeso i chi gysylltu 芒 ni ar: 01244 846090 neu e-bost: Debbie.barker@flintshire.gov.uk Meini Prawf: Di-waith am 6 mis a mwy Yn byw yn ardal Cymunedau yn Gyntaf Yn byw mewn cartref di-waith O鈥檙 chwith: Debbie Barker, Cyngor Sir y Fflint, Bentley, Neriesha Coathupe ar Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet dros