每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dadorchuddio Gwarchodwr Mawr Sir y Fflint ym Mhwynt y Fflint

Published: 11/05/2016

Yn ddiweddar dadorchuddiodd Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint gerflun pren ar Lwybr yr Arfordir. Pwrpas y prosiect celf gwerth 拢5,000 hwn oedd creu milwr pren i warchod a gwylio dros Ynys Hilbre o Bwynt y Fflint. Sicrhaodd y Gwasanaeth Cefn Gwlad gyllid gwerth 拢43,000 gan y Gronfa Cymunedau Arfordirol ar gyfer gwelliannau ym Mhwynt y Fflint. Mae prosiectau ar y gweill gan gynnwys gosod wyneb newydd ar lwybrau troed, creu llwybr troed arall ar gyfer llanw uchel, gwyro erydiad, creu llwybr troed arall a thrwsio ffensys a phrosiect celf. Comisiynwyd artist lleol, Mike Owens i wneud y gwaith. Mae鈥檙 cerflun wedi鈥檌 wneud o goed llarwydd, mae鈥檔 dair metr o uchder, defnyddiwyd rhaff ddur i wneud yr arfwisg a defnyddiwyd hoelion pen crwn wedi鈥檜 galfaneiddio i greu menyg dur. Meddai鈥檙 Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, Cyngor Sir y Fflint: 鈥淢ae鈥檙 鈥楤ig 每日大瓜 Guardian鈥 neu鈥檙 BFG yn ychwanegiad gwych i鈥檙 safle. Mae eisoes yn atyniad poblogaidd iawn ymysg trogolion lleol a bydd yn denu llawer o bobl pan ddawr Eisteddfod ir Fflint dros y misoedd nesaf.鈥 Gwahoddwyd trigolion lleol draw, ynghyd ag aelodau o Grwpiau Canoloesol Samhain a Cymdial a oedd yn eu gwisgoedd ar gyfer y lansiad swyddogol. Ariennir y Gronfa Cymunedau Arfordirol gan y Llywodraeth gydag incwm o asedau morol Ystad y Goron. Fe鈥檌 darperir gan y Gronfa Loteri Fawr ar ran Llywodraeth y DU a Gweinyddiaethau Datganoledig Gogledd Iwerddon, Yr Alban a Chymru. BFG.JPG O鈥檙 chwith: George a Carol Andrews (trigolion lleol), Christopher Roberts (Cymdeithas Ganoloesol Cymdial), Roy a June Davies (trigolion lleol), Jim Craven (gwirfoddolwr), Y BFG, Mike Owens (artist), Stephen Lewis (Ceidwad Cefn Gwlad), Charles Evans Gunther (Cymdeithas Ganoloesol Samhain)