Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Prosiectau diogelwch ffyrdd newydd
Published: 20/04/2016
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cyhoeddi 11 o brosiectau diogelwch ffyrdd newydd a
fydd yn cael eu cyflwyno yn ystod y flwyddyn gyfredol.
Maer prosiectau yn cynnwys 6 gorchymyn parcio diwygiedig, a fydd yn lleihau
parcio anystyriol a thagfeydd mewn rhai ardaloedd allweddol yn y Sir a darparu
5 arwydd rhybudd sy鈥檔 cael eu cynnau gan gerbydau wedi eu gweithredu ar ffyrdd
lle mae cyflymder gormodol wedi cael ei gofnodi.
Maer safleoedd wedi cael eu blaenoriaethu yn dilyn adolygiad or holl
safleoedd posibl ac yn enwedig y rhai lle mae ceisiadau ar gyfer gosod y
nodweddion diogelwch hyn wedi eu derbyn.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros
yr Amgylchedd:
鈥淩wyf yn falch o allu ymrwymo gwariant y Cyngor i gyflwynor nodweddion
diogelwch priffyrdd allweddol hyn. Mae pob un or cynlluniau wedi cael eu
hasesu gan ddefnyddio system sgorio y cytunwyd arni i sicrhau ein bod yn gosod
y nodweddion ar y ffyrdd sydd eu hangen fwyaf.
Lleoliadaur diwygiadau gorchmynion traffig yw:
Ffordd Wrecsam/Stryd Brook, Yr Wyddgrug
Ysgol Abermorddu
Ffordd Penarl芒g/Queensway, Yr Hob
L么n Fagl, Yr Hob
Ffordd Penymynydd, Penymynydd
Liverpool Road, Bwcle
Bydd yr arwyddion sy鈥檔 cael eu cynnau gan gerbydau yn cael eu gosod yn y
lleoliadau canlynol:
Pen gorllewinol Ffynongroyw
Ffordd Penarl芒g, Abermorddu
A5104 Treuddyn
Liverpool Road, Bwcle
Priffordd, Brychdyn