Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Rhentu Doeth Cymru - ydych chin barod?
Published: 30/03/2016
Rhentu Doeth Cymru yw鈥檙 enw brand ar gyfer gofynion cofrestru a thrwyddedu Rhan
1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 a gyflwynodd Llywodraeth Cymru ddiwedd y flwyddyn.
Mae鈥檙 gyfraith newydd yn gymwys i holl landlordiaid ac asiantau eiddo preswyl
preifat yng Nghymru. Os ydych yn rheoli neu鈥檔 berchen ar eiddo sy鈥檔 cael ei
rentu鈥檔 breifat a/neu鈥檔 byw mewn eiddo rydych yn ei rentu, bydd y Ddeddf hon yn
effeithio arnoch chi.
Bydd Rhentu Doeth Cymru yn gwella delwedd y sector rhentu preifat. Bydd o fudd
i鈥檙 rhai sy鈥檔 rhentu eu cartref yn y sector ac yn gwella arferion landlordiaid
ac asiantau.
Ym mis Tachwedd 2015, rhoddwyd 12 mis i landlordiaid ac asiantau gofrestru 芒
Rhentu Doeth Cymru a chael trwydded ganddynt. Mae modd gwneud hyn ar-lein ar
wefan Rhentu Doeth Cymru. Yn ystod y flwyddyn gyntaf, bydd y pwyslais ar godi
ymwybyddiaeth o鈥檙 gofynion newydd a sicrhau bod pawb yn cydymffurfio 芒 nhw.
Mae cyrsiau cymeradwy gorfodol wedi鈥檜 rhestru ar wefan Rhentu Doeth Cymru.
Gallwch ddod o hyd i鈥檙 lleoliad agosaf a鈥檜 manylion cyswllt a neilltuo lle
ar-lein.
I ddysgu rhagor, ewch i www.rentsmart.gov.wales
neu ffoniwch 03000 133344.
Mae鈥檙 ddeddfwriaeth newydd a Rhentu Doeth Cymru yn disodli 鈥榬 cynllun achredu
gwirfoddol i landlordiaid a oedd ar waith yng Nghyngor Caerdydd. Yn y dyfodol,
bydd yr awdurdod lleol yn cymryd camau gorfodi yn erbyn landlordiaid ac
asiantau nad ydynt yn cydymffurfio 芒鈥檜 cyfrifoldebau cyfreithiol ar ran yr
awdurdod trwyddedu.