每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwyddiant y Ffair Brentisiaid gyntaf

Published: 17/03/2016

Cynhaliodd Cyngor Sir y Fflint ei Ffair Brentisiaid gyntaf yr wythnos hon fel rhan o鈥檙 wythnos Prentisiaid Cenedlaethol. Roedd gan gyfanswm o 23 o fusnesau o Sir y Fflint a鈥檙 tu hwnt stondinau arddangos yn y digwyddiad cyntaf hwn ac roedd cyfle i dros 500 o ddisgyblion o lawer o Ysgolion Uwchradd Sir y Fflint edrych o gwmpas yr arddangosfa. Cynhaliwyd y Ffair mewn dwy sesiwn, bore a phrynhawn, er mwyn caniat谩u i gymaint 芒 phosibl o bobl ifanc fod yn bresennol. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd, a agorodd ddwy sesiwn y Ffair: 鈥淢ae鈥檙 Ffair Brentisiaid hon wedi bod yn gyfle gwirioneddol i鈥檔 myfyrwyr ysgol uwchradd edrych ir dyfodol a thrafod opsiynau prentisiaeth gyda darpar gyflogwyr. Roedd hefyd yn gyfle gwych i glywed o lygad y ffynnon gan Alwen Williams am ymagwedd BT tuag at brentisiaethau yn ogystal 芒 chlywed am hanes personol Jessica Ashton fel prentis BT. Dechreuodd Alwen Williams, Cyfarwyddwr BT Cymru, gyda BT yn syth or ysgol ac mae hi bellach yn bennaeth sefydliad BT yng Nghymru. Mae Jessica ar ail flwyddyn prentisiaeth Uwch. Ymunodd 芒 BT ar 么l cwblhau gradd sylfaen. Roedd y digwyddiad, yn Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug, yn cynnig arddangosiadau byw a sesiynau rhyngweithiol yn ymdrin ag amrywiaeth eang o broffesiynau, gan gynnwys y gwasanaeth t芒n, therapi harddwch ar diwydiant adeiladu. Yn ogystal, roedd cyfle i鈥檙 rhai a oedd yn bresennol Roi cynnig ar Grefft a chael cyngor ar ysgrifennu CV. Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys rhestr o fusnesau a oedd yn bresennol a mwy o wybodaeth am eu cynlluniau prentisiaeth a swyddi gwag, cysylltwch 芒 Kate Catherall ar 01352 703221 neu kate.catherall@flintshire.gov.uk.