Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyhoeddi enillydd cystadleuaeth y Llyfrgell
Published: 10/03/2016
Fel rhan o鈥檙 dathliadau i agor canolfan Llyfrgell newydd yng nghanolfan Hamdden
Glannau Dyfrdwy, cynhaliodd Gwasanaeth Llyfrgell Sir y Fflint gystadleuaeth i
gynllunio Cerdyn Aelodaeth y Llyfrgell newydd.
Gwahoddwyd tair ysgol gynradd leol i gymryd rhan yn y gystadleuaeth, sef -
Queensferry, Sandycroft a Phenarl芒g.
Cafwyd 68 o gynigion a dewiswyd un o bob ysgol i鈥檞 roi ar y rhestr fer. Lexi
Jones o Ysgol Bentref Penarl芒g oedd yn fuddugol ac mae Lexi i鈥檞 gweld yn y llun
gyda鈥檌 cherdyn aelodaeth buddugol, ac Ian Bancroft, Prif Swyddog Newid
Sefydliadol Cyngor Sir y Fflint a gyflwynodd docynnau llyfr i Lexi fel gwobr.