每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ystyried paneli solar

Published: 10/03/2016

Yr wythnos nesaf, bydd Pwyllgor Arolygu a Chraffu鈥檙 Amgylchedd Cyngor Sir y Fflint yn ystyried datblygu dau safle ynni solar (ffotofoltaidd) ar safleoedd tirlenwi Brookhill a Standard Landfill ym Mwcle, cyn i鈥檙 cynigion gael eu cyflwyno gerbron y Cabinet yn ddiweddarach yn y mis. Bydd y ddau safle鈥檔 cynhyrchu tua 1200 MWh o ynni trydanol bob blwyddyn, sy鈥檔 ddigon o ynni ar gyfer 240 o gartrefi. Bydd yn arbed 13,500 tunnell o garbon monocsid yn ystod oes y cynlluniau. Disgwylir y caiff llawer o鈥檙 ynni a gynhyrchir ei ddefnyddio gan y Cyngor Sir yn uniongyrchol a hynny yn depo Alltami gerllaw, gan leihau costau ynni鈥檙 Cyngor a鈥檌 么l-troed carbon yn sylweddol. Meddai鈥檙 Cynghorydd Bernie Attridge, y Dirprwy Arweinydd a鈥檙 Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: Rwy鈥檔 falch iawn o gyflwyno鈥檙 cynnig hwn i鈥檙 Cabinet gan ei fod yn dangos pa mor benderfynol yw鈥檙 Cyngor o arbed arian mewn modd cynhyrchiol ac sy鈥檔 gwneud lles i鈥檙 amgylchedd. Mae hefyd yn dangos ein hymrwymiad i leihau costau a charbon. Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, yr Aelod Cabinet dros Strategaeth Gwastraff a Diogelu鈥檙 Cyhoedd: Mae鈥檙 cynigion yn ffordd wych o ddefnyddio鈥檙 safleoedd tirlenwi gan ehangu oes y tyrbinau nwy presennol sy鈥檔 cynhyrchu trydan o鈥檙 nwyon gwastraff a gynhyrchir ar y safle. Maent hefyd yn diogelu ac yn gwella鈥檙 amgylchedd ar y ddau safle at y dyfodol.鈥