Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Wythnos Mabwysiadu a Maethu Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol (LHDT)
Published: 08/03/2016
Ydych chi鈥檔 Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol neu Drawsrywiol ac yn ystyried
mabwysiadu neu fethu?
Fel rhan o Wythnos Mabwysiadu a Maethu LHDT (7-13 Mawrth), mae Gwasanaeth
Maethu Sir y Fflint a Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru yn cynnal sesiwn galw
i mewn yng Ngwesty鈥檙 Springfield ger Treffynnon ar ddydd Sadwrn 12 Mawrth
10-12.30
Cynhelir Wythnos Mabwysiadu a Maethu LHDT gan New Family Social, grwp cymorth y
DU ar gyfer mabwysiadwyr a gofalwyr maeth LHDT. Bob gwanwyn, mae gwasanaethau
maethu a mabwysiadu ar draws y DU yn cynnal digwyddiadau yn benodol ar gyfer
darpar rieni sy鈥檔 lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol.
Ar draws y DU, mae prinder o fabwysiadwyr a gofalwyr maeth. Mae tua 4,000 o
blant angen eu mabwysiadu bob blwyddyn. Maer Rhwydwaith Faethu yn amcangyfrif
bod angen brys am 9,000 yn rhagor o ofalwyr maeth yn y DU. Roedd cyplau or un
rhyw yn mabwysiadu yn cyfrif am 7.8 y cant or holl rai a fabwysiadwyd yng
Nghymru yn 2014/15.
Mae Sir y Fflint yn awyddus i annog mwy o gyplau neu ofalwyr sengl LHDT i ddod
ymlaen.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyngor Sir y Fflint:
鈥淩ydym yn gobeithio chwalu llawer o fythau am faethu. Mae ein gofalwyr maeth yn
Sir y Fflint yn sengl, yn briod, yn hoyw, yn str锚t, ifanc, hen, gydag a heb
blant eu hunain. Mae gan bawb rywbeth gwahanol iw gynnig. Y peth pwysicaf yw
bod gennych amser, ystafell wely sb芒r a chartref diogel, gofalgar a chariadus
iw gynnig i
blentyn. Yn ein profiad ni, mae gan ofalwyr maeth a mabwysiadwyr LHDT yr union
sgiliau rydym yn chwilio amdanynt, ac, yn bwysicach, y penderfyniad sy鈥檔
hanfodol i ofalu am y plant a鈥檙 bobl ifanc ddiamddiffyn hyn.鈥
Mae pobl ifanc sydd eisoes mewn gofal maeth gyda phobl LGBT hefyd wedi bod yn
siarad am eu profiadau. Dywedodd un:
鈥淢ae hin ddynes ddoniol, ofalgar syn gwneud i mi deimlon ddiogel. Rwy鈥檔
ffodus iawn i fod wedi dod i fyw ati. Os ydych yn awyddus i faethu a鈥檆h bod yn
hoyw, lesbiaidd, deurywiol neu drawsrywiol, peidiwch 芒 gadael i unrhyw beth
eich rhwystro chi. Maen nhw wedi gwneud i mi deimlo fy mod yn perthyn yma a fy
mod yn rhan ou teulu, sy鈥檔 wych gan fod angen i chi deimlon ddiogel ac yn
hapus.
Dywedodd person ifanc arall mewn gofal maeth:
鈥淧an glywais i fy mod yn mynd i fod yn aros mewn lleoliad gyda chwpl hoyw
roeddwn wedi fy nghyffroi, yr unig beth wnaeth groesi fy meddwl oedd beth
fyddai fy ffrindiau yn ei feddwl neu鈥檔 dywed, ond roedd fy ffrindiau yn
gefnogol iawn mewn gwirionedd ac yn cyd-dynnun dda. Ddylai pobl byth farnu
cwpl hoyw, nhw ywr bobl fwyaf anhygoel a gofalgar y gallech chi eu cwrdd yn
unrhyw le. Fyddwn i ddim yn newid fy amser yno am y byd.鈥
I gael mwy o wybodaeth am faethu a mabwysiadu, ewch i wefan Gwasanaeth Maethu
Sir y Fflint www.flintshirefostering.org.uk neu www.northwalesadoption.gov.uk.