Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyllid pellach ar gyfer adfywio Glannau Dyfrdwy
Published: 10/02/2016
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi 拢1,367,000 arall i Gyngor Sir y Fflint ar gyfer
ei raglen adfywio yng Nglannau Dyfrdwy.
Bydd yr arian, or rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, yn cael ei
ddefnyddio i wneud gwelliannau amgylcheddol pellach, gwelliannau ir rhwydwaith
beicio a mesurau arbed ynni yng nghartrefi鈥檙 cyngor.
Mae Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, sydd bellach yn cyrraedd diwedd ei hail
flwyddyn, yn rhaglen adfywio flaenllaw gan Lywodraeth Cymru. Dros dair blynedd
yn 么l, derbyniodd y Cyngor ychydig dros 拢6 miliwn ar gyfer rhaglen adfywio
uchelgeisiol yng Nglannau Dyfrdwy. Bydd y rhaglen yn gwella craidd Glannau
Dyfrdwy ac yn ategur twf economaidd mawr sydd ar waith yn yr Ardal Fenter lle
rhagwelir y bydd 7,000 o swyddi newydd yn cael eu creu.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Derek Butler sy鈥檔 gyfrifol am y Portffolio Datblygu
Economaidd, Croesawir y cyhoeddiad hwn sy鈥檔 dod o ganlyniad i鈥檙 cynnydd da y
maer Cyngor yn ei wneud wrth gyflwynor rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn
Addewid yng Nglannau Dyfrdwy. Mae Glannau Dyfrdwy yn ganolbwynt economaidd
pwysig i ogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr ac maer rhaglen hon yn elfen
bwysig o ran hybu ffyniant y rhanbarth.