每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwaith ar y gweill ar brosiect Canolfannau Blynyddoedd Cynnar Sir y Fflint

Published: 25/06/2021

Mae cwmni adeiladu o Ogledd Cymru wedi cychwyn gweithio ar y gyntaf o sawl ysgol i ymestyn ac ehangu鈥檙 ddarpariaeth cyn ysgol ar gyfer plant yn Sir y Fflint.

Mae Wynne Construction eisoes wedi eu penodi gan Gyngor Sir y Fflint i gynllunio ac adeiladu rhaglen waith 拢7.1m, fel rhan o becyn buddsoddi sy鈥檔 cynnig gofal plant blynyddoedd cynnar mewn 10 ysgol gynradd.听

Mae鈥檙 buddsoddiad hwnnw hefyd yn cynnwys gwaith ar Ganolfan Deuluoedd fodern i Dechrau'n Deg, yn ogystal 芒 dau Brosiect Band B Ysgolion yr 21ain ganrif, yn Ysgol Brynffordd ac Ysgol Croes Atti, Shotton.

Bydd hyn yn creu trosglwyddiad esmwyth rhwng y ddarpariaeth cyn ysgol a鈥檙 meithrin drwy gynnig gofal trwy鈥檙 dydd i blant tair a phedair oed, gyda llefydd ar gael i blant rhieni sy鈥檔 talu鈥檔 uniongyrchol hefyd, yn ogystal 芒 rhai sy鈥檔 defnyddio'r 30 awr yr wythnos o ddarpariaeth gofal plant am ddim a ariennir gan y llywodraeth.

Mae鈥檙 30 awr am ddim yna hefyd yn cynnwys lleiafswm o 10 awr yr wythnos o addysg gynnar a ariennir.

Mae prosiect Ysgol Brynffordd ger Treffynnon yn dod yn ei flaen yn dda, gydag aelodau o Gyngor Sir y Fflint yn bresennol i weld y gwaith drostynt eu hunain.

Mae鈥檙 gwaith, fydd yn ymestyn dwy ran wahanol o鈥檙 ysgol, wedi ei rannu鈥檔 ddwy ran. Mae鈥檙 rhan gyntaf ar y gweill yn barod, a鈥檙 ail ran i gychwyn yn yr haf. Dylai fod wedi ei gwblhau erbyn Ionawr 2022.

Mae cyfleusterau i鈥檙 Canolfannau Blynyddoedd Cynnar newydd wedi eu cynllunio gyda chyfuniad o waith blociau a slabiau concrid parod, yn ogystal 芒 waliau o baneli strwythur wedi eu hinsiwleiddio, a鈥檙 rheiny wedi eu dewis oherwydd eu priodweddau insiwleiddio yn ogystal 芒鈥檙 ffaith eu bod yn garedig wrth yr amgylchedd.

Mae鈥檙 cynllun gwaith wedi rhoi鈥檙 cyfle i Wynne Construction recriwtio aelodau newydd o staff, gan gynnwys rheolwyr safle cynorthwyol o dan oruchwyliaeth y rheolwr prosiect Mark Wilson, sydd newydd ei ddyrchafu.

Mae Marc wedi gweithio i Wynne ers pan oedd o鈥檔 16 oed ac mae wedi rheoli nifer o safleoedd proffil uchel o鈥檙 blaen, gan gynnwys Travelodge y Rhyl ac Ysgol Penyffordd yn Sir y Fflint.

鈥淢ae rhoi鈥檙 cyfle i weithwyr dyfu a datblygu'n broffesiynol wedi bod yn flaenoriaeth i Wynne Construction, erioed,鈥 meddai.

鈥淕an fy mod wedi bod gyda鈥檙 cwmni ers i mi adael yr ysgol ac wedi cael cefnogaeth ar hyd y daith hyd at gymhwyster gradd, gallaf dystio i hynny鈥檔 bersonol.

Rydym yn falch iawn o fod wedi ein dewis gan Gyngor Sir y Fflint ar gyfer y gwaith hwn ac edrychwn ymlaen at barhau gyda鈥檙 berthynas dda a gr毛wyd gyda鈥檙 cyngor dros y blynyddoedd.

Dywedodd, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Ian Roberts:听

"Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth gyda Wynne Construction ar sawl achlysur dros y blynyddoedd diwethaf ac rydym yn falch o fod yn gwneud hynny eto ar y prosiectau blynyddoedd cynnar, gan gynnwys Ysgol Brynffordd.听

鈥淎r 么l eu cwblhau, bydd y cyfleusterau newydd yn cynnig gofal ac addysg well i blant Sir y Fflint, yn ogystal 芒 chynnig cymorth ychwanegol i鈥檞 rheini.

鈥淏yddwn yn edrych ymlaen at weld cynnydd y gwaith.鈥

KFP_9458.JPG

Ysgol Brynffordd a鈥檜 Pennaeth Rachel Critchell ar daith o gwmpas yr ailddatblygu, i鈥檞 gweld yma gyda, o鈥檙 chwith i鈥檙 dde: Syrf毛wr Meintiau Wynne Construction Tom Hocknell; Claire Homard, Prif Swyddog Addysg Cyngor Sir y Fflint; Damian Hughes Uwch Swyddog CSFf Cynllunio a Darparu Llefydd mewn Ysgolion; Y Cyng. Ian Roberts, Arweinydd y Cyngor; Rheolwr Prosiect Wynne Mark Wilson; Rheolwr Safle Liam Jones; y Cyng. Jean Davies a Phrif Weithredwr CSFf Colin Everett.听