Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ymgynghoriad Papur Gwyn Llywodraeth Cymru 鈥 Ailgydbwyso Gofal a Chymorth
Published: 10/06/2021
Bydd gofyn i aelodau Cabinet Sir y Fflint adolygu ymateb Sir y Fflint i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ailgydbwyso gofal a chymorth pan fyddant yn cyfarfod nesaf, ddydd Mawrth 15 Mehefin.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ceisio safbwyntiau awdurdodau lleol ar gynigion i gyflwyno deddfwriaeth newydd sy鈥檔 mynd i鈥檙 afael 芒 chymhlethdod y prosesau comisiynu lleol cyfredol, ac yn ailganolbwyntio blaenoriaethau o ran comisiynu gofal a chymorth.
Mae鈥檙 Papur Gwyn yn bwriadu ailgydbwyso鈥檙 farchnad gofal a chymorth ar sail fframwaith cenedlaethol clir lle mae gwasanaethau鈥檔 cael eu trefnu鈥檔 rhanbarthol a'u darparu'n lleol.听
Y prif bwnc trafod yw a fydd yr hyn a gynigir yn y Papur Gwyn yn cyflawni鈥檙 canlyniadau a fwriedir, a barn Sir y Fflint yw na fydd yn gwneud hynny.听 Y mae angen newid pellach, ond nid y newid a awgrymir yn y Papur Gwyn.听
Dylai newidiadau yn y dyfodol ganolbwyntio ar y ffordd orau o ddarparu systemau iechyd a gofal cymdeithasol integredig sydd wedi鈥檜 gwreiddio mewn cymunedau lleol.听 Mae Sir y Fflint, ar y cyd 芒 Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wedi dangos sut y gellir cyflawni hyn drwy gydweithio'n effeithiol, yn hytrach na thrwy ddiwygio strwythurau.
Mae datblygiad diweddar Cartref Gofal Marleyfield House ym Mwcle, sydd newydd gael estyniad, gyda鈥檌 gymysgedd o le ychwanegol i drigolion hirdymor, a gwasanaeth newydd i gefnogi pobl hyn sy鈥檔 gadael yr ysbyty am gyfnod byr, yn enghraifft berffaith o gydweithio cadarnhaol.听听
Mae datblygiadau ar y cyd eraill yn cynnwys gwasanaeth Therapi Amlsystemig newydd, sydd wedi cael llawer o glod, i weithio gyda phobl ifainc a theuluoedd, datblygu cyfleoedd dydd a chyfleoedd gwaith newydd i bobl ag anableddau dysgu yn Hwb Cyfle a Hwb Dyffryn, ac agor Plas yr Ywen, cyfleuster gofal ychwanegol i oedolion hyn yn Nhreffynnon.听
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:
鈥淒ylid cael ymrwymiad i adnoddau yn hytrach na chyllid i strwythurau newydd. Mae angen buddsoddiad mawr, cynaliadwy mewn gofal cymdeithasol.听 Byddai mwy o fuddsoddiad yn ein galluogi i fynd i鈥檙 afael 芒 rhai o鈥檙 heriau a nodwyd heb wneud dim o鈥檙 newidiadau sylweddol a gynigir.
鈥淢ae angen inni sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael eu talu鈥檔 deg ac yn briodol. Bydd angen arian ychwanegol ar gyfer hyn. Yn aml, gall diffyg adnoddau, a chyllido gwir gost gofal o safon, rwystro gwasanaethau rhag cael eu gwella. Byddai buddsoddi arian yn y farchnad gofal cymdeithasol yn galluogi arloesi ac yn galluogi gwasanaethau i gael eu gwella.鈥
Mae鈥檙 model cyllido presennol yn ddiffygiol, ac y mae gwir angen buddsoddi amser ac adnoddau er mwyn dod 芒 chydlyniaeth i'r cwestiwn cyllid hirdymor, ac er mwyn dylunio system sy'n gallu bodloni'r gofynion newydd ac ychwanegol y bydd gofal cymdeithasol yn eu hwynebu yn y dyfodol.
Dywedodd Neil Ayling, Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae atebolrwydd democrataidd yn un o gryfderau allweddol y system bresennol, ac mae鈥檔 rhaid cadw hynny. Mae angen inni gadw system gofal cymdeithasol sy鈥檔 cael ei harwain, ei chomisiynu a鈥檌 darparu鈥檔 agos at gymunedau lleol, gan alluogi penderfyniadau ynghylch cyllid i gael eu gwneud yn lleol er mwyn darparu gwasanaethau sy鈥檔 wirioneddol bwysig i bobl.鈥
听