每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Cabinet yn ystyried cynnydd blynyddol cadarnhaol y Cyngor 鈥 2020/2021

Published: 10/06/2021

Gofynnir i Aelodau Cabinet nodi cynnydd, perfformiad a鈥檙 risgiau a nodir yn adroddiad diwedd y flwyddyn Cynllun y Cyngor ar gyfer 2020/21 yn y cyfarfod ddydd Mawrth, 15 Mehefin.

Cafodd Cynllun y Cyngor 2017/23 ei fabwysiadu gan y Cyngor ym Medi 2017. Mae Sir y Fflint wedi perfformio yn dda yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf ac yn profi unwaith eto ei fod yn Gyngor sy鈥檔 perfformio鈥檔 uchel.听 Er gwaethaf blwyddyn heriol yn sgil Covid-19, mae 67% o鈥檙 gweithgareddau yn gwneud cynnydd da a dim ond 13% sydd heb gyrraedd eu targedau 鈥 oll yn sgil y sefyllfa digynsail a gr毛wyd gan y pandemig.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ian Roberts:

鈥淭rwy Gynllun y Cyngor, rydym yn blaenoriaethu meysydd a gwasanaethau sy鈥檔 bwysig i鈥檔 cymuned. Caiff ei fonitro trwy gydol y flwyddyn er mwyn asesu os fyddwn yn taro ein targedau. Er gwaethaf nifer o flynyddoedd o her ariannol a鈥檙 flwyddyn hynod o anodd rydym oll wedi ei brofi, mae Sir y Fflint yn parhau i fod yn Gyngor sy鈥檔 perfformio鈥檔 gryf.鈥澨

Roedd nifer o gyflawniadau trwy gydol y flwyddyn, gyda rhai wedi鈥檜 rhestru isod:

  • Cafodd dros 64% o bobl ifanc 16 鈥 18 oed yn y system cyfiawnder ieuenctid gynnig addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth.听
  • Dros 63% o wastraff wedi鈥檌 ailddefnyddio, ailgylchu neu ei gompostio.听
  • Cyfartaledd cyfradd ailgylchu o dros 80% ar draws holl Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref er gwaethaf cyfyngiadau Covid.
  • Cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif 鈥 17,405.
  • Mae cyfradd ateb galwadau cyffredinol y Ganolfan Gyswllt ar gyfer y flwyddyn yn 93.64%, ac yn welliant o鈥檌 gymharu 芒鈥檙 flwyddyn flaenorol o 87%, er gwaethaf y cynnydd yn nifer y galwadau.
  • 169 o dai fforddiadwy yn eiddo i ac wedi鈥檜 rheoli gan Gartrefi NEW.
  • 93 o dai fforddiadwy wedi鈥檜 cwblhau neu yn cael eu hadeiladu trwy鈥檙 Rhaglen Adfywio a Thai Strategol.
  • Lefel boddhad tenantiaid Cyngor dros 96%.
  • 2,173 o fesurau arbed ynni wedi鈥檜 darparu er mwyn lleihau tlodi tanwydd.听
  • Er gwaethaf oedi yn sgil Covid-19, agorodd y cynllun gofal ychwanegol diweddaraf, Plas yr Yrwn yn Nhreffynnon, gan greu 55 o unedau gofal ychwanegol.
  • Mae cyfanswm yr unedau gofal ychwanegol a ddarperir yn Sir y Fflint bellach yn 239.

Mae adnoddau yn parhau i fod yn heriol, ond er gwaethaf hyn, roedd y Cyngor wedi gallu gosod cyllideb gytbwys ar gyfer 2021/22.

Dywedodd Prif Weithredwr Sir y Fflint, Colin Everett:听

鈥淢ae Sir y Fflint wedi bod yn greadigol ac yn llwyddiannus i gyflawni ei nodau am flwyddyn arall.听 Mae rhai prosiectau wedi dod i ben, mae rhai yn parhau ac yn symud i鈥檙 flwyddyn nesaf wrth i Sir y Fflint barhau i gyrraedd a rhagori ei dargedau, er gwaethaf yr heriau economaidd parhaus a鈥檙 argyfwng iechyd.鈥