每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad Monitro Blynyddol y Gymraeg

Published: 10/06/2021

Gofynnir i Gabinet Sir y Fflint gymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Gymraeg yn ei gyfarfod ddydd Mawrth, 15 Mehefin.

Mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol i gyhoeddi adroddiad blynyddol yn nodi sut mae wedi bodloni鈥檙 171 o Safonau鈥檙 Gymraeg a nodwyd ym Medi 2015 gan Gomisiynydd y Gymraeg.

Mae Adroddiad Blynyddol y Gymraeg yn rhoi cyfle i nodi鈥檙 hyn mae鈥檙 Cyngor wedi鈥檌 wneud i fodloni鈥檙 safonau ac i ddangos enghreifftiau o arferion da. Mae meysydd cadarnhaol o gyflawniad yn ystod y flwyddyn yn cynnwys:

  • Mae cyfraddau cwblhau ein hasesiad sgiliau Cymraeg dros 98%. Dim ond 43 o weithwyr sydd bellach angen cwblhau鈥檙 asesiad.
  • Mae lleihad yn y nifer o weithwyr heb unrhyw sgiliau Cymraeg o gwbl o 38.18% (1096) i 35.45% (992) o weithwyr.
  • Dathlwyd Dydd Gwyl Ddewi trwy gefnogi Menter Iaith Fflint a Wrecsam i ddarparu gweithgareddau ar-lein, megis gorymdaith rithiol gyda pherfformiad gan Fand Cambria, ryseitiau coginio a chystadlaethau. Fe gymerodd ysgolion, cynlluniau gofal ychwanegol a chartrefi preswyl, ran yn y digwyddiadau hyn, yn ogystal 芒鈥檙 gymuned leol.
  • Cymerodd y Cyngor ran yn niwrnod Hawliau鈥檙 Gymraeg lle wnaethom bostio fideos ar y cyfryngau cymdeithasol o rai o鈥檔 gweithwyr Cymraeg i annog ein cwsmeriaid i gysylltu 芒 ni yn Gymraeg a defnyddio ein gwasanaethau Cymraeg.

Mae rhai meysydd lle mae angen gwneud mwy o gynnydd:听听

  • datblygu sgiliau Cymraeg ein gweithwyr, yn arbennig y rhai mewn swyddi sy鈥檔 wynebu鈥檙 cyhoedd, er mwyn cefnogi gwasanaethau i ddarparu gwasanaethau dwyieithog. Mae鈥檙 T卯m Dysgu a Datblygu wedi bod yn hyrwyddo cyrsiau blasu i annog gweithwyr i ddechrau dysgu Cymraeg.
  • sicrhau cydymffurfiaeth gyson gyda鈥檙 Safonau ar ein gwefan, cyfryngau cymdeithasol a dogfennau cyhoeddus.

Fe dderbyniom dwy gwyn mewn perthynas 芒鈥檙 Gymraeg a derbyniwyd tair cwyn yn uniongyrchol gan Gomisiynydd y Gymraeg.听 Roedd y rhain yn ymwneud yn bennaf 芒 materion a godwyd yn ystod argyfwng Covid-19 a phenderfynodd y Comisiynydd beidio 芒 symud ymlaen gyda鈥檙 rhain o ystyried y cyd-destun eithriadol.听 Mae un mater sy鈥檔 weddill mewn perthynas 芒 gwefan Cronfa Bensiynau Clwyd.

Dywedodd Aelod Cabinet Rheoli Corfforaethol Sir y Fflint, y Cynghorydd Billy Mullin:

鈥淩ydym yn cymryd ein cyfrifoldeb i gydymffurfio 芒 Safonau鈥檙 Gymraeg o ddifri, ac wedi ein hymrwymo i ddarparu gwasanaethau cyfartal yn Gymraeg a Saesneg. Mae hawl gan ein cwsmeriaid Cymraeg dderbyn yr un safon o wasanaeth yn y Gymraeg y mae ein cwsmeriaid Saesneg yn ei dderbyn. Mae鈥檙 adroddiad yn dangos yr hyn rydym yn ei wneud i gyflawni hyn a鈥檙 camau rydym yn eu cymryd i wella.鈥