Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cerdded a beicio yn Sir y Fflint 鈥 dewch i ddweud eich dweud!
Published: 07/06/2021
Mae Cyngor Sir y Fflint yn lansio ymgynghoriad teithio llesol ar-lein i gael barn pobl am lwybrau teithio llesol yn y Sir.
Mae鈥檙 ymgynghoriad yn rhan o Fap Rhwydwaith Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, a fydd yn cael ei ddefnyddio i nodi ble y gellid gwneud gwelliannau i lwybrau cerdded a beicio yn y Sir.听听
Y bwriad yw ei gwneud yn haws ac yn fwy diogel i bobl gerdded a beicio yn Sir y Fflint, gan annog y rheiny nad ydynt yn teithio fel hyn i ddechrau gwneud hynny trwy wneud gwelliannau i lwybrau presennol a chyflwyno llwybrau newydd i gysylltu 芒鈥檙 llwybrau cerdded a beicio presennol.
Dywedodd y Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet ar gyfer y Gwasanaethau Stryd:听
鈥淢ae ystod eang o fanteision ynghlwm wrth ddulliau teithio llesol, o helpu i ostwng allyriadau carbon a gwella safon yr aer i wella iechyd a lles, felly dyma gyfle ardderchog i drigolion Sir y Fflint ddweud wrthym beth yr hoffent ei weld yn cael ei gynnwys ar ein Map Rhwydwaith Teithio Llesol yn y dyfodol.
鈥淓r mwyn dylunio rhwydwaith sy鈥檔 gweithio i bawb, hoffem gael barn cymaint o bobl ag sy鈥檔 bosibl, yn enwedig y rheiny nad ydynt yn cerdded neu feicio ar hyn o bryd, a byddem yn annog pob preswylydd a busnes i gymryd rhan.
鈥淏ydd hyn yn ein helpu i wneud yn siwr bod llwybrau sy'n cael eu creu ar gyfer cerdded a beicio yn gweithio i鈥檙 gymuned gyfan.
鈥淒efnyddir eich adborth i helpu i greu Map Rhwydwaith Teithio Llesol Sir y Fflint o lwybrau cerdded a beicio.鈥
Am fwy o wybodaeth ynglyn 芒 sut i ddarparu adborth ewch i
听
Os nad ydych yn gallu cael mynediad at y Rhyngrwyd gallwch anfon eich barn at active.travel@flintshire.gov.uk neu ffonio 01352 701234.听
听
Croesawir adborth tan 1 Gorffennaf 2021.
听