Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyngor yn awgrymu rhoi cynnig ar atyniadau gwahanol a thawelach
Published: 25/05/2021
Wrth i gyfyngiadau鈥檙 clo mawr lacio, mae Cyngor Sir y Fflint yn annog trigolion y sir i fynd allan a mwynhau rhai o atyniadau llai prysur yr ardal.
Yn naturiol, mae llawer o lwybrau cerdded a golygfeydd poblogaidd wedi bod ar ben rhestr pobl o lefydd i ymweld 芒 nhw wrth i鈥檙 tywydd wella a鈥檙 cyfyngiadau leihau.
Ond mae Cyngor Sir y Fflint yn awyddus iawn i鈥檙 cyhoedd ddal i gadw pellter cymdeithasol a chadw at y rheolau Covid eraill er mwyn i bawb aros yn ddiogel.
Yn ystod cyfnodau brig, roedd Parc Gwepra mor brysur fel y bu鈥檔 rhaid cau鈥檙 maes parcio er mwyn rheoli nifer yr ymwelwyr a chadw pellter cymdeithasol.
Mae Andrew Farrow, Prif Swyddog Cynllunio, Amgylchedd ac Economi Sir y Fflint yn awyddus i atgoffa pawb fod digon o ddewisiadau eraill ar gael yn hytrach nag anelu am yr atyniadau prysuraf yn unig.
Meddai: 鈥淢ae amrywiaeth wych o bethau y gellir eu gweld a鈥檜 gwneud yn Sir y Fflint.
鈥淵ma mae llawer o berlau cudd a mannau cyhoeddus tawelach sy鈥檔 cynnig golygfeydd a phrofiadau yr un mor wych a thrawiadol 芒鈥檙 llecynnau mwyaf poblogaidd.
鈥淢ae rhywbeth i blesio pawb ac mae mwynhau llwybrau a safleoedd hanesyddol yn ffordd berffaith o dreulio prynhawn gyda鈥檆h anwyliaid, a dysgu rhywbeth newydd am yr ardal hon yr un pryd.鈥
Daeth mynd am dro cerdded, byr a hir, yn weithgaredd poblogaidd iawn yn ystod y cyfnod clo ac, yn Sir y Fflint, mae llu o lwybrau i鈥檞 dilyn trwy goedwigoedd a chefn gwlad agored.
Os ydych yn chwilio am olygfeydd glan llyn, ewch am dro ar y llwybr rhwng Caerwys ac Ysceifiog.
Mae鈥檙 daith bum milltir hon yn mynd trwy goedwig gyda thyfiant cyfoethog, ac o amgylch llynnoedd hardd Ysgeifiog, a gr毛wyd gan ddyn. Yn aml fe welwch gotieir a ieir bach y dwr yn nythu ger y coed a gweision y neidr yn sgimio dros wyneb y dwr ym misoedd cynnes yr haf.
Os ydych chi鈥檔 hoffi golygfeydd gwych, cewch hynny, a llawer mwy wrth gerdded rhwng Waun y Llyn a Llanfynydd. Mae鈥檙 tro pedair milltir hwn yn gwau ei ffordd dros fryniau a rhwng chwareli tywodfaen gan rhoi cipolwg difyr ar hanes mwyngloddio yn Waun y Llyn.听
Cewch ragor o olygfeydd trawiadol wrth gerdded llwybr estynedig ger nant a thrwy ddyffryn coediog Nant-y-Ffridd. Gallwch gael cipolwg braf ar Sir Ddinbych o weledfan Gwaenysgor neu fwynhau harddwch y glannau ar y rhan o Lwybr Arfordir Cymru sy鈥檔 rhedeg drwy Sir y Fflint.
Ymhlith y llwybrau eraill y gallwch eu mwynhau yn y sir y mae:
- Llwybr treftadaeth tair milltir sy鈥檔 dechrau a gorffen ym Mharc Gwledig Etna ym Mwcle
- Cylchdaith o Glasfryn yn Yr Wyddgrug lle byddwch yn dringo i鈥檙 bryniau a thrwy Ystad Gwysaney a Sychdyn
- Dringo i ben Mynydd Helygain, gan igam-ogamu heibio hen chwareli mwyngloddio a thir comin lle鈥檙 oedd defaid yn arfer pori
- Llwybr o amgylch Parc Gwledig Waun y Llyn ac at gopa Mynydd yr Hob (yn y llun) lle cewch olygfeydd braf o gefn gwlad Sir y Fflint
- Trip ar hyd traethau a thwyni tywod Y Parlwr Du hyd at aber Afon Dyfrdwy gyda golygfeydd hardd o Gilgwri ac arfordir Cymru.
Tra bod Castell Caergwrle yn lle poblogaidd gyda rhai sy鈥檔 ymddiddori yn hanes a diwylliant Cymru, os ydych am brofiad gwahanol yr un mor llawn o hanes rhowch gynnig ar y castell a arferai fod ar Fryn y Beili Yr Wyddgrug, neu ewch i fwynhau Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas.
Yn ddiweddar, gwariwyd 拢1.8 miliwn ym Mryn y Beili yn hwyluso mynediad a gwella鈥檙 llwybrau gan ychwanegu ardal berfformio newydd awyr agored lle gynt yr oedd y beili mewnol. Yn ystod y gwaith ailddatblygu bu鈥檔 rhaid cyfyngu rhywfaint ar fynediad i鈥檙 parc ond, gyda鈥檙 gwaith bellach wedi ei orffen, mae鈥檙 llecyn hwn ar agor yn llawn unwaith eto i bawb ei fwynhau.
Ym Mharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas, ger Treffynnon, mae 70 erw o dir coediog lle byddwch yn rhyfeddu wrth weld dros 2,000 mlynedd o hanes 鈥 o olion adeiladau crefyddol fel Abaty Dinas Basing i鈥檙 ffatr茂oedd a wnaeth gyfraniad mor bwysig at chwyldro diwydiannol Prydain.
Anogir pawb sy鈥檔 mwynhau hanes i gerdded glan m么r tref Y Fflint ar hyd ochr Afon Dyfrdwy hyd at Gastell Y Fflint, sy鈥檔 enwog am ei dwr unigryw a mawreddog.
Os ydych yn ffans茂o rhywbeth gwahanol i鈥檙 cyffro a gewch ar lwybrau beicio Coedwig Nercwys, beth am newid eich dwy olwyn am fwrdd padlo a chaiac ar ddyfroedd Parc y Gorffennol, ger Yr Hob.
Oes gennych chi berlau cudd yr hoffech eu rhannu? Ewch i dudalennau Archwilio Sir y Fflint ar Facebook () ac Instagram () a gadewch i bawb wybod eich ffefrynnau.听
听