每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adfywio Canol Trefi

Published: 13/05/2021

Yn y cyfarfod ddydd Mawrth, 18 Mai, bydd Cabinet Sir y Fflint yn nodi鈥檙 cynnydd a wnaed o ran adfywio canol trefi a鈥檙 goblygiadau o ran adnoddau i ddatblygiad y rhaglen fel y cytunwyd.

Mae canol trefi llai ar draws y DU wedi bod yn wynebu amgylchiadau economaidd heriol ers blynyddoedd yn sgil y newid i ymddygiad cwsmeriaid. Mae鈥檙 pandemig Covid-19 wedi gwaethygu鈥檙 tueddiadau hyn, fodd bynnag, mae鈥檔 rhy gynnar ar hyn o bryd i ddeall yr effaith hirdymor.听

Mae trefi bychain ar draws y DU yn wynebu nifer o heriau, gan gynnwys:

  • Y newid i ymddygiad cwsmeriaid, sydd wedi gwaethygu yn ystod y pandemig Covid-19 ac wedi arwain at ostyngiad i wariant mewn siopau ar y stryd fawr i raddau helaeth. Ni ddisgwylir i hyn ddychwelyd i鈥檙 lefelau cyn Covid, sy鈥檔 golygu y bydd gormod o siopau mewn trefi ac na fydd modd eu cynnal.听听
  • Mae canolfannau siopa llai yn ei chael hi鈥檔 anodd parhau i fod yn hyfyw a denu tenantiaid.听听
  • Mae nifer fechan o eiddo gwag hirdymor mewn trefi, a gallai hyn gael effaith niweidiol ar yr ardal leol.听

Mae rhaglen flaengar y Cyngor yn ystyried canol trefi eto a sut y gellir eu siapio i鈥檙 dyfodol, gan gynnwys:听

  • lleihau nifer yr eiddo gwag hirdymor mewn canol trefi;
  • dod o hyd i ddefnydd mwy cynaliadwy ar gyfer unedau masnachu a chynyddu mentrau cymunedol ar y Stryd Fawr;听
  • cynllunio i roi pwrpas newydd i ganolfannau siopa llai hyfyw;
  • datblygu unedau cychwynnol ar gyfer mentrau manwerthu newydd mewn canol trefi; a
  • chydlynu a chefnogi pob ymyrraeth 芒 dull cyson i sicrhau ein bod yn manteisio i鈥檙 eithaf ar effeithiau adfywiol buddsoddiadau ac adnoddau.

Dywedodd Andrew Farrow, Prif Swyddog Cynllunio, yr Amgylchedd ac Economi Cyngor Sir y Fflint:

鈥淓r gwaethaf yr oedi yn sgil Covid-19, gwnaethpwyd cynnydd sylweddol gan gynnwys:听

- Datblygu rhaglen uchelgeisiol o fuddsoddiad teithio llesol ar draws Bwcle a鈥檙 Wyddgrug;听

- Sicrhau buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru mewn teithio llesol a seilwaith cludiant cyhoeddus yng Nglannau Dyfrdwy;

- Sefydlu strwythur a ffrydiau gwaith llywodraethu Uwchgynllun Shotton; ac

- Ymgyrchoedd hyrwyddo llwyddiannus i fusnesau yn y trefi a鈥檙 sectorau twristiaeth a lletygarwch."

Er mwyn parhau i ddarparu鈥檙 rhaglen hon yn effeithiol, bydd yn rhaid sicrhau bod rhagor o adnoddau ar gael. Mae鈥檙 t卯m adfywio yn cynnwys dau unigolyn ar hyn o bryd, ac mae cynlluniau ar y gweill i recriwtio unigolyn arall. Mae鈥檔 rhaid cydnabod hefyd y bydd y dull arfaethedig yn gosod gofynion ar dimau eraill o fewn y Cyngor i ddarparu cyngor a chymorth arbenigol, er enghraifft gwasanaethau cyfreithiol ac eiddo.听听

鈥淏ydd yn rhaid sicrhau rhagor o gyllid.听 Ers yr adroddiad diwethaf ym mis Mawrth 2020, mae cyfleoedd newydd am fuddsoddiadau mewn trefi wedi codi ac mae鈥檙 Cyngor yn bwriadu elwa o鈥檙 cyfleoedd newydd hyn i gefnogi twf a datblygiad yng nghanol ein trefi.鈥澨