Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cronfa Benthyciadau Canol Tref Sir y Fflint
Published: 11/05/2021
Mae Cyngor Sir y Fflint yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb ar gyfer cyllid benthyciadau ar gyfer prosiectau adfywio canol tref. Mae cyllid yn cael ei ddarparu trwy Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a chaiff ei weinyddu gan Gyngor Sir y Fflint. Mae鈥檙 benthyciad wedi鈥檌 anelu at berchnogion eiddo canol tref a busnesau sy鈥檔 meddiannu eiddo canol tref.听
Mae鈥檙 math o brosiect y gallai鈥檙 cynllun benthyciadau hwn eu helpu yn cynnwys: dod ag eiddo gwag yn 么l i ddefnydd; mynd i鈥檙 afael ag inswleiddiad gwael a darpariaeth gwres mewn adeiladau canol tref; symud datblygiadau sydd wedi鈥檜 hoedi ymlaen sy鈥檔 barod i ddechrau ar y safle ond sydd 芒 bwlch o ran eu cyllid, a hwyluso mynediad i gyllid arall.听
Dywedodd Andrew Farrow, Prif Swyddog Cynllunio, yr Amgylchedd ac Economi Cyngor Sir y Fflint:
鈥淏ydd y benthyciadau hyn yn helpu ag adferiad ein canol trefi yn dilyn effaith Covid-19. Byddan nhw鈥檔 darparu help ariannol a all ganiat谩u i welliannau a datblygiadau gael eu cyflawni lle na fyddent wedi digwydd fel arall.鈥
Y gyfradd llog arfaethedig ar gyfer y benthyciad yw sero y cant ar gyfer cyfnod y benthyciad ac mae鈥檔 amodol ar ffi weinyddu. Bydd amodau鈥檙 benthyciad a鈥檙 amserlen ad-dalu ar gyfer yr arian a gaiff ei fenthyg yn adlewyrchu gofynion pob prosiect. Gall benthyciadau fod rhwng dwy a saith mlynedd o ran hyd. Cyfanswm maint y gronfa i鈥檞 defnyddio yng nghanol trefi Sir y Fflint yw 拢840,000. Yn amodol ar gapasiti鈥檙 gronfa, bydd y ddarpariaeth ar gael ar gyfer y 15 mlynedd nesaf. Wrth i hen fenthyciadau gael eu had-dalu, caiff cynigion newydd eu hasesu ar gyfer cyllid.
I ddechrau, dylai unigolion sydd 芒 diddordeb ym manylion y cynllun anfon crynodeb o鈥檜 cynigion a鈥檜 manylion cyswllt at: regeneration@flintshire.gov.uk.
听