Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
SEREN 鈥楤RITAIN鈥橲 GOT TALENT鈥 YN DATGELU EI BROSIECT CELF DIWEDDARAF SY鈥橬 DATHLU GOFALWYR MAETH AWDURDODAU LLEOL LEDLED CYMRU
Published: 10/05/2021
Mae鈥檙 artist o Gymru, Nathan Wyburn, am ddenu sylw at waith gofalwyr maeth Cyngor Sir y Fflint,, wrth i Theatr Clwyd hefyd gael ei oleuo鈥檔 oren y Pythefnos Gofal Maeth hwn.
Cafodd llawer ohonom gefnogaeth ein teuluoedd a鈥檔 chyfeillion i鈥檔 cefnogi yn ystod y flwyddyn anodd ddiwethaf, ond mae ar rai plant a phobl ifanc ar draws Cymru angen mwy o鈥檙 gefnogaeth hynny nag erioed o鈥檙 blaen.听
Nawr, ar gychwyn Pythefnos Gofal Maeth 鈥 ymgyrch hybu ymwybyddiaeth a recriwtio cenedlaethol y Rhwydwaith Maethu (The Fostering Network) 鈥 mae Cyngor Sir y Fflint yn gofyn i fwy o bobl yn Sir y Fflint i ystyried maethu.
Gyda thema eleni 鈥#WhyWeCare鈥, mae鈥檙 artist o Gymru, Nathan Wyburn, sy鈥檔 adnabyddus am ei ddulliau unigryw o greu celf, wedi llunio darn yn defnyddio goleuadau LED i helpu i ddangos sut gall unrhyw dy fod yn gartref diogel, llawn cariad.
Meddai Nathan, anfonwyd cerdd ataf yn trafod yr holl bethau mae gofalwyr maeth yn eu gwneud wrth ddarparu dyfodol mwy llewyrchus i blant ledled Cymru ac roeddwn am greu rhywbeth sy鈥檔 dathlu鈥檙 modd maent yn agor drysau eu cartrefi a鈥檜 calonnau.
鈥淒ewisais drosi鈥檙 geiriau hynny yn gelf gyda darn sy鈥檔 arddangos y cartref fel y golau gwirioneddol ym mhen draw鈥檙 twnnel ar gyfer plant a phobl ifanc.听
鈥淒wi鈥檔 credu taw un o鈥檙 mythau mwyaf am faethu yw bod rhaid cael ty mawr a gardd fawr i fod yn ofalwr maeth 鈥 nid yw hynny鈥檔 wir.鈥
Ceir fideo treigl amser yn dangos y darn yn dod at ei gilydd gyda鈥檙 gerdd fel tros haen yn dangos sut mae cyd-destun y darn yn aneglur, 鈥淥nd pan gaiff y goleuadau eu cynnau ceir eglurder,鈥 ychwanega Nathan.听
鈥淢ae ymdeimlad o bosibilrwydd a phositifrwydd yn eglur!鈥
Nawr gofynnir i bobl ar draws Sir y Fflint ddangos eu cefnogaeth i Bythefnos Gofal Maeth trwy osod lamp yn eu ffenestr blaen ddydd iau nesaf (20 Mai) i 鈥榙aflu goleuni鈥 ar y gwaith a gyflawnir gan ofalwyr maeth awdurdodau lleol, ac i ddathlu eu hymdrechion i drawsnewid bywydau plant a phobl ifanc. Bydd adeiladau ar draws Cymru, gan gynnwys Theatr Clwyd hefyd wedi鈥檜 goleuo鈥檔 oren i gydnabod y gwaith anhygoel a gyflawnir.
Meddai y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chefnogwr Gofalwyr Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae gofalwyr maeth yn darparu cefnogaeth, cariad a sefydlogrwydd o ddydd i ddydd i blant a phobl ifanc sy鈥檔 methu byw gyda鈥檜 teuluoedd genedigol.
鈥淓r bod nifer ohonom wedi bod yn anhapus am dreulio mwyafrif o鈥檙 llynedd wedi鈥檔 caethiwo yn ein cartrefi, ar gyfer rhai pobl ifanc gallant ond breuddwydio am gael ymdeimlad o ddiogelwch, diogeledd a chysur mae cartref yn ei roi. Gall ymddangos yn rhywbeth sydd allan o鈥檜 cyrraedd i rai plant a phobl ifanc.鈥
Mae angen cannoedd o deuluoedd maethu newydd bob blwyddyn yng Nghymru ar gyfer plant o bob oedran, ac yn benodol grwpiau o frodyr neu/a chwiorydd, plant hyn a phobl ifanc a phlant ag anghenion ychwanegol, a phlant ar eu pennau eu hunain sy鈥檔 ceisio lloches.听
鈥淐eir nifer o gamdybiaethau ynghylch maethu.鈥 ychwanegodd y Cynghorydd Jones.
鈥淓r enghraifft, mae rhai pobl yn credu bod angen i chi fod mewn perthynas neu鈥檔 briod 鈥 neu fod yn berchen ar eich cartref eich hun 鈥 ond nid yw hynny鈥檔 wir.听
鈥淯n o鈥檙 pethau am faethu yw nad yw am newid y plant, mae鈥檔 golygu gadael iddynt fod eu hunain a鈥檜 helpu i ddarganfod pwy ydynt er mwyn ffynnu. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy鈥檔 dwyn profiadau bywyd a gwaith amrywiol i鈥檙 r么l.
鈥淏ydd gan nifer o bobl yn Sir y Fflint ystafelloedd sb芒r a allai fod yn lloches, gan drawsnewid bywyd plant a sicrhau eu bod yn ffynnu.鈥
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn rhannu cynnwys ar draws ei sianeli cyfryngau cymdeithasol trwy gydol Pythefnos Gofal Maethu i helpu mwy o bobl i ddeall a gwerthfawrogi maethu a鈥檙 gwahaniaeth cadarnhaol y gall ei wneud i fywydau pobl ifanc.
Os credwch y gallwch wneud gwahaniaeth trwy fod yn ofalwr maeth yn Sir y Fflint, ewch i .
听