Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Hysbysiad Gwella Covid
Published: 19/04/2021

Mae Swyddogion o Wasanaeth Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint wedi cyflwyno Hysbysiad Gwella i Clive Barber鈥檚, 78 Chester Road West, Shotton ar 么l i鈥檙 busnes wrthod nifer o geisiadau i gydymffurfio 芒 chanllawiau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru.听 Mae鈥檙 hysbysiad gwella yn datgan bod rhaid i鈥檙 busnes:
- Sicrhau bod pellter o 2 fetr rhwng y barbwyr a bod pellter o 2 fetr hefyd rhwng unrhyw gwsmer sy鈥檔 aros am eu hapwyntiad.
- Sicrhau bod yr holl staff wrth weithio yn gwisgo gorchudd wyneb math II a fisorau neu sbectols diogelwch clir.听 Rhaid i holl gwsmeriaid hefyd wisgo gorchudd wyneb.
- Sicrhau bod staff yn cyflawni gwaith gwaredu gwallt y wyneb megis torri barf neu waredu gwallt y trwyn wrth wisgo Mwgwd Llawfeddygol Gwrth Hylif, amddiffyniad y llygaid (sbectol diogelwch neu fisor wyneb llawn) a menyg a ffedog untro.
- Cael mesurau mewn lle ar gyfer rheoli mynediad i鈥檙 eiddo a chyfyngu ar y nifer o gwsmeriaid sydd yn yr eiddo ar un tro.听听
- Arddangos arwyddion a chymorthyddion gweledol eraill i atgoffa cwsmeriaid i gadw pellter o 2 fetr rhwng ei gilydd ac i wisgo gorchudd wyneb.
Dywedodd Andrew Farrow, Prif Swyddog Cynllunio, yr Amgylchedd ac Economi Sir y Fflint:
鈥淓r gwaethaf ymdrechion gan wasanaeth Safonau Masnach y Cyngor a swyddogion Tracio ac Olrhain, mae鈥檙 busnes wedi gwrthod cydymffurfio 芒 chanllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer barbwyr a siopau trin gwallt.听 Trwy wrthod gwisgo鈥檙 dillad diogelwch gofynnol, maent yn rhoi eu hunain a鈥檜 cwsmeriaid mewn risg o ddal y clefyd a鈥檌 ledaenu ymhellach.听听
鈥淢ae cyfraddau h,aint yn Sir y Fflint yn isel iawn ar hyn o bryd, ond os yw busnesau yn gwrthod dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru mae risg gwirioneddol o gynnydd mewn cyfraddau haint.听 Bydd Swyddogion yn cyflwyno Hysbysiadau Gwella ar y busnesau hynny sy鈥檔 gwrthod cydymffurfio ac, os fyddent yn parhau i wrthod dilyn y canllawiau, ni fydd gan y swyddogion unrhyw ddewis ond cyflwyno hysbysiad cau.鈥
Bydd swyddogion o Wasanaeth Diogelu Busnes a鈥檙 Gymuned y Cyngor yn parhau i fonitro cydymffurfiaeth gyda鈥檙 rheoliadau cyfredol a chanllawiau Llywodraeth Cymru.听 Os oes unrhyw fusnes yn ansicr o鈥檙 gofynion i gydymffurfio 芒鈥檙 rheoliadau a chanllawiau, mae cyngor ar gael gan Wasanaeth Diogelu Busnes a鈥檙 Gymuned Cyngor Sir y Fflint trwy ffonio 01352 703399 neu anfon e-bost at covidbusinesscompliance@flintshire.gov.uk.
听