Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwelliannau i Gylchfan Queensferry
Published: 26/01/2016
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru drwy鈥檙 Gronfa
Trafnidiaeth Leol ar gyfer cynllun i wella Cylchfan Queensferry a鈥檙 Gyffordd
Signal gyfagos ger Asda, ar hyn o bryd mae oedi hir yn y ddau le ystod cyfnodau
prysur.
Cynigir bod y gwaith yn cael ei wneud rhwng Chwefror ac Ebrill a bydd yn
cynnwys:
. Lledu ffyrdd ymuno ac ymadael o鈥檙 A494 hyd at gylchfan Queensferry.
. Lledu cylchfan Queensferry er mwyn creu lonydd rhedeg ychwanegol.
. Ailfodelu cyffordd y B5129 a鈥檙 B5441 yn ASDA.
. Gosod signalau ar bob ffordd sy鈥檔 ymuno 芒 chylchfan Queensferry
. Uwchraddio a chysylltu pob un o鈥檙 signalau traffig cyfredol a newydd.
Mae鈥檙 Cyngor yn ymddiheuro o flaen llaw am unrhyw oedi ac unrhyw anghyfleustra
y bydd y gwaith yn ei achosi a bydd yn hysbysu鈥檙 cyhoedd o fanylion y
trefniadau rheoli traffig yn ystod amrywiol gamau鈥檙 cynllun. Bydd mynediad i
fusnesau ac eiddo yn ardal y gwaith yn parhau tra bo鈥檙 gwaith yn cael ei wneud.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd: 鈥淩wy鈥檔
falch bod Llywodraeth Cymru wedi cefnogir cais. Bydd oedi yn ystod y gwaith
yn anochel, ond rydym yn gofyn i aelodau鈥檙 cyhoedd fod yn amyneddgar tra bo鈥檙
gwaith yn cael ei wneud.鈥
Disgwylir y bydd y ffyrdd ymuno ac ymadael o鈥檙 A494 i Gylchfan Queensferry ar
gau am gyfnodau yn ystod y gwaith er mwyn hwyluso鈥檙 gwaith lledu a gosod
signalau. Bydd goleuadau traffig dros dro a chyfyngiadau yn eu lle, ac er bod
camau鈥檔 cael eu cymryd i mwyn osgoi aflonyddwch, disgwylir y bydd oedi.
Cynhelir ail sesiwn galw heibio ar 28 Ionawr yn Sefydliad Cofeb Rhyfel
Queensferry rhwng 1.00pm a 6.30pm pan fydd y cynlluniau ar gael i鈥檞 gweld a
bydd swyddogion y Cyngor ar gael i ateb unrhyw gwestiynau neu bryderon sydd
gan aelodau o鈥檙 cyhoedd neu fusnesau lleol ynghylch y gwaith.