Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Diwrnod o Fyfyrio
Published: 22/03/2021
Ar ddydd Mawrth, 23 Mawrth bydd munud o dawelwch am 12 dydd a gwylnos stepen drws cenedlaethol am 8.00pm, i ffurfio rhan o鈥檙 diwrnod o fyfyrio i nodi blwyddyn ers cyfnod clo cyntaf y Deyrnas Unedig, pan fydd y rhai a fu farw yn y pandemig yn cael eu cofio.
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cynnal munud o dawelwch, ac ar y cyd 芒 nifer o brif adeiladau a chofebion ar draws y sir bydd Theatr Clwyd yn cael ei oleuo yn felyn yn ystod y nos.
听Dywedodd y Cynghorydd Marion Bateman, Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint;
听
听听鈥淢ae鈥檙 flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anodd iawn i ni wrth i anferthedd her y pandemig ddod yn glir. Bydd nifer ohonom wedi cael ein heffeithio gan golled trasig perthynas, ffrindiau, cymdogion a chydweithwyr agos. Mae cymaint o sefyllfaoedd lle nad yw pobl wedi gallu dweud hwyl fawr i鈥檞 hanwyliaid yn iawn ac i ddod ynghyd i roi cysur a chymorth sy鈥檔 angenrheidiol i ni gyd i ddeall ac adfer o drasied茂au o鈥檙 fath.
听
听Mae鈥檔 briodol iawn ein bod ni鈥檔 cymryd amser i fyfyrio ar ein siwrnai trwy鈥檙 pandemig, cofio鈥檙 rhai sydd wedi ein gadael ni yn ystod y cyfnod a sut allwn ni oll helpu ein gilydd i symud ymlaen yn y misoedd i ddod.鈥
听
听Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts;
听
听听鈥淗eb amheuaeth, mae ein bywydau bob dydd wedi cael ei amharu ac wedi newid yn sylweddol dros y deuddeg mis diwethaf. Rydym ni oll wedi aberthu nifer o鈥檔 rhyddid yr oeddem yn cymryd yn ganiataol. Ar 23 Mawrth, byddwn yn cofio鈥檙 rhai sydd wedi colli鈥檙 frwydr yn erbyn y pandemig a鈥檙 tor calon mae nifer o deuluoedd wedi dioddef.
听
听听鈥淩haid i ni hefyd fyfyrio ar, a chanmol ymdrechion, sgiliau a phenderfyniad y rhai sydd wedi ymdrechu i鈥檔 cadw鈥檔 ddiogel a chadw gwasanaethau hanfodol i redeg yn ystod y cyfnod hwn. Mae ein gwasanaethau iechyd, gwasanaethau brys a gofalwyr wedi gweithio鈥檔 ddiflino i ofalu amdanom a鈥檔 diogelu ni. Mae staff y cyngor, y rheng flaen a gwasanaethau cefnogi wedi rhoi cymaint o ymdrech ac ymrwymiad i sicrhau bod y gwasanaethau hanfodol rydym yn eu darparu yn cael eu cynnal. Mae ein hysgolion, colegau a phrifysgolion wedi bod yn ddiflino yn eu penderfyniad i gynnal gwasanaethau a chymorth addysg ar gyfer ein plant a phobl ifanc. Mae ymdrechion anhygoel ein gweithwyr siop a gyrwyr cyflenwi ac eraill wedi ein galluogi i barhau gyda鈥檔 bywydau dyddiol.
听
听鈥淩ydym wedi gwneud cynnydd o ran ein dealltwriaeth o鈥檙 coronafeirws yn y misoedd diwethaf a鈥檙 hyn sydd angen i ni ei wneud i gadw鈥檔 gilydd yn ddiogel. Wrth i ni symud yn agosach at lacio鈥檙 cyfyngiadau a dychwelyd i lefel o normalrwydd, rwan yw鈥檙 adeg i sicrhau ein bod yn parhau i ddilyn y rheolau.鈥
听