Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Adroddiad Monitro鈥檙 Gyllideb Refeniw 2020/21
Published: 11/03/2021
Mewn cyfarfod ar ddydd Mawrth 16 Mawrth, byddir yn gofyn i aelodau鈥檙 Cabinet nodi sut y mae鈥檙 Cyngor wedi rheoli cyllideb 2020/21 yn llwyddiannus er gwaethaf amgylchiadau heriol.
Y sefyllfa a ragwelir ar ddiwedd y flwyddyn ym Mis 10 yw gwarged gweithredu o 拢0.924m, sy鈥檔 welliant o 拢0.552m ar y ffigwr gwarged o 拢0.372m a adroddwyd ym Mis 9.
Mae鈥檙 sefyllfa well hon wedi codi鈥檔 bennaf oherwydd adolygiad manwl o鈥檙 risgiau ym mhortffolio Gwasanaethau Stryd a Chludiant o ganlyniad i鈥檙 pandemig, ynghyd 芒 chadarnhad o gyllid ychwanegol o Gronfa Caledi Llywodraeth Cymru.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet Cyllid Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae鈥檙 Cyngor wedi cyflawni'r canlyniadau cadarnhaol hyn drwy gynllunio ariannol gofalus.听听
鈥淢ae鈥檙 cymorth ariannol sylweddol sydd ar gael drwy鈥檙 Gronfa Caledi, ochr yn ochr 芒 rheoli鈥檙 gyllideb yn gadarn ac effeithiol, wedi galluogi'r Cyngor i sicrhau bod gwariant y flwyddyn ariannol gyfredol o fewn y gyllideb y cytunwyd arni.
鈥淩oedd hyn yn cynnwys cyflwyno mesurau鈥檔 gynnar yn y flwyddyn er mwyn lliniaru unrhyw orwario posibl.鈥澨
Roedd y mesurau a gyflwynwyd yn cynnwys herio pob gwariant dianghenraid a herio recriwtio i swyddi gwag.
Ychwanegodd y Cynghorydd Banks:
鈥淢ae鈥檙 sefyllfa hon yn dangos bod gan y Cyngor fframwaith cynllunio ariannol cadarn, ac mae'n parhau i gryfhau ei waith cynllunio ariannol i gefnogi gwell gwytnwch ariannol yn y dyfodol, er gwaethaf heriau digynsail.鈥
听