Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Trefniadau Derbyn i Ysgolion 2022/23
Published: 11/03/2021
Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo trefniadau derbyn i ysgolion ar gyfer 2022/23 pan fydd yn cyfarfod ddydd Mawrth, 16 Mawrth.
Cynhaliwyd yr ymarfer ymgynghori blynyddol gyda llywodraethwyr ysgol, awdurdodau esgobaethol a chynghorau cyfagos yn ystod mis Rhagfyr ac Ionawr ac ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau. Roedd yr ymgynghoriad yn ymdrin 芒 threfniadau derbyn llawn yn cynnwys y polisi derbyn, meini prawf ar gyfer mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael, yr amserlen ar gyfer derbyniadau a niferoedd derbyn (h.y. y nifer mwyaf o ddisgyblion a gaiff eu derbyn gan yr awdurdod derbyniadau i bob grwp blwyddyn).听
Yn Sir y Fflint mae mwyafrif helaeth (tua 96%) o ddewisiadau rhieni yn parhau i gael eu bodloni, gyda nifer cymharol fychan o apeliadau.听 Disgwylir y bydd mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael unwaith eto, yn enwedig ar lefel uwchradd, mewn rhai rhannau o鈥檙 Sir o ganlyniad i ddewisiadau rhieni.
Mae rhwng 1600 a 1700 o geisiadau bob blwyddyn yn y tri chyfnod derbyn, h.y. ar gyfer Blwyddyn 7, y Dosbarth Derbyn a鈥檙 Dosbarth Meithrin. Hefyd, derbynnir mwy na 1200 o geisiadau i newid ysgol yn ystod y flwyddyn academaidd, yn bennaf oherwydd pobl yn symud i鈥檙 ardal. Gwneir pob cais ar-lein, a rhoddir cymorth gan Swyddogion Derbyn a staff Sir y Fflint yn Cysylltu i unrhyw rieni sy鈥檔 cael trafferth llenwi鈥檙 ffurflen.
Meddai'r Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint:听
"Rwy鈥檔 falch bod y rhan fwyaf o blant yn Sir y Fflint, unwaith eto, yn gallu mynychu'r ysgol y maent wedi'i dewis. Hoffwn annog rhieni a gofalwyr i ddychwelyd eu ceisiadau ar-lein erbyn y dyddiad gofynnol.听 Byddwn yn parhau i weithio er mwyn sicrhau bod y mwyafrif helaeth o ddewisiadau rhieni鈥檔 cael eu bodloni.鈥
听