Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Adroddiad moderneiddio ysgolion
Published: 11/03/2021
Bydd aelodau Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn cael y cynigion cyffrous nesaf ar gyfer gwella darpariaeth addysg mewn gwahanol ardaloedd o'r Sir pan fyddant yn cyfarfod ddydd Mawrth 16 Mawrth.
Gofynnir i鈥檙 Cabinet gytuno i gomisiynu contract dylunio ac adeiladu ar gyfer y prosiectau arfaethedig yn Ysgol Croes Atti, Y Fflint ac ysgol gynradd Drury.
Mae prosiect Croes Atti wedi鈥檌 gysylltu鈥檔 agos 芒 Chynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y Cyngor a bydd yr ysgol cyfrwng Cymraeg newydd arfaethedig yn disodli Ysgol Croes Atti, sydd ar Ffordd Caer yn y Fflint. Os caiff ei gytuno gan y Cabinet, hon fydd yr ysgol cyfrwng Cymraeg newydd gyntaf i gael ei hadeiladu gan y Cyngor, ers iddo gael ei sefydlu ym 1996. Mae鈥檙 prosiect arfaethedig hwn yn ychwanegol at y prosiect buddsoddi a gytunwyd eisoes yn Ysgol Croes Atti, Glannau Dyfrdwy.
Y cynnig arloesol arall yw ailfodelu Ysgol Gynradd Drury, gan fynd i鈥檙 afael 芒 materion addasrwydd a chapasiti a fyddai鈥檔 darparu llety parhaol ar gyfer ystafelloedd dosbarth i ddisodli ystafelloedd dosbarth symudol presennol.听听
Mae鈥檙 cynigion diweddaraf hyn yn dilyn prosiectau llwyddiannus eraill sydd wedi鈥檜 cwblhau neu sy鈥檔 mynd rhagddynt fel rhan o raglen fuddsoddi Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor a ffrydiau ariannu eraill a ddarperir gan Lywodraeth Cymru.听听
Meddai鈥檙 Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid:
鈥淢ae gwaith gwych eisoes wedi鈥檌 wneud gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru mewn gwahanol rannau o鈥檙 Sir, gan gynnwys prosiectau mawr ar gyfer ysgolion yn Nhreffynnon, Shotton, Penyffordd a Chei Connah.
鈥淓r mwyn sicrhau bod modd i鈥檙 prosiectau cyffrous hyn ddatblygu, gobeithir y bydd y Cabinet yn cytuno鈥檙 cynigion hyn yn ein rhaglen fuddsoddi ar gyfer y dyfodol ar gyfer ysgolion. Bydd hyn yn sicrhau bod gwaith yn gallu parhau i ddatblygu yn ddi-oed i ddarparu ein hadeilad ysgol cyfrwng Cymraeg newydd cyntaf ers 1996, a gwella cyfleusterau鈥檔 sylweddol yn Ysgol uwchradd Drury."
听