Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyngor Sir y Fflint yn ymuno ag ymgyrch ailgylchu wych Cymru i fynd i鈥檙 afael â newid yn yr hinsawdd a chyrraedd rhif un yn y byd
Published: 11/03/2021
Gyda 92% o bobl yng Nghymru bellach yn ailgylchu yn rheolaidd*, mae Cymru gam yn nes at gyflawni ei hymgyrch Wych o gyrraedd rhif un yn y byd am ailgylchu.听
Dyna pam mae Sir y Fflint wedi ymuno 芒 Cymru yn Ailgylchu trwy alw ar eu preswylwyr i ddal ati gyda鈥檜 hymdrechion gwych i ailgylchu popeth y gallan nhw y Gwanwyn yma.听
Mae Cymru wedi dangos ei ysbryd gwych ac mae hi eisoes yn y trydydd safle yn y byd, ond dyw hanner ohonom dal ddim yn ailgylchu popeth allwn ni, ac mae peth ffordd i fynd eto.听
Mae ailgylchu yn un o'r ffyrdd hawsaf o helpu i fynd i'r afael 芒 newid yn yr hinsawdd o鈥檔 cartrefi gan ei fod yn helpu i warchod adnoddau naturiol ac yn arbed ynni, gan arafu听 effeithiau newid yn yr hinsawdd.
Ymunwch 芒 ni i gefnogi ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha. Cymru yn Ailgylchu, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, er mwyn helpu i amddiffyn dyfodol ein planed.
Dywedodd Aelod Cabinet dros Strydwedd a Chefn Gwlad, y Cynghorydd Carolyn Thomas:
鈥淩ydyn ni'n cefnogi Ymgyrch Wych Cymru yn Ailgylchu i gyrraedd rhif un yn y byd am ailgylchu. Gallwn ni i gyd chwarae ein rhan drwy ailgylchu popeth o fewn ein gallu yn y cartref 鈥 boed yn fwyd gwastraff, fel plisgyn wyau, croen ffrwythau a llysiau, a bagiau te o鈥檙 gegin, neu drwy ailgylchu poteli siampw a gel gwag o'r ystafell ymolchi. Rydym wedi dangos bod gennym yr hyn sy鈥檔 angenrheidiol, gyda Chymru鈥檔 cael ei blwyddyn orau erioed o ran ailgylchu, felly gadewch inni barhau 芒鈥檔 hymdrech fawr i sicrhau mai Cymru fydd y wlad orau yn y byd o ran ailgylchu.鈥
Mae Cymru yn Ailgylchu wedi rhannu ei bum awgrym gorau ar gyfer ailgylchu o鈥檆h cartref y Gwanwyn hwn:
1. Ewch yn wyrdd wrth dwtio鈥檆h cartref听
Gellir ailgylchu poteli cynnyrch glanhau gwag 鈥 o boteli cannydd plastig i chwistrellwyr ac erosolau sglein dodrefn. Gofalwch eu bod yn wag a rhowch nhw yn eich ailgylchu yn lle eu taflu. Bydd ailgylchu un botel chwistrellu yn unig yn arbed digon o egni i wefru chwe thabled.
2. Cliriwch eich annibendod听
Y Gwanwyn yn draddodiadol yw鈥檙 amser i gael rhyw fath o drefn yn y cartref. Yn lle taflu eitemau, edrychwch ar Lleoliad Ailgylchu Cymru yn Ailgylchu i gael mwy o wybodaeth am ble i ailgylchu eitemau fel batris, dillad ac eitemau trydanol bach.
3. Trowch eich gwastraff bwyd yn ynni
Os ydych chi'n coginio, rhowch yr holl wastraff bwyd na allwch ei fwyta fel crwyn a choesynnau llysiau yn eich cadi gwastraff bwyd, ynghyd 芒 phlisgyn wyau ac unrhyw esgyrn sy'n weddill o gig neu bysgod. Gellir ailgylchu bagiau te, grownds coffi a chroen ffrwythau hefyd. Pan fydd bwyd yn cael ei ailgylchu, caiff ei droi'n ynni adnewyddadwy. Gall un croen banana wedi'i ailgylchu gynhyrchu digon o egni i wefru dau ff么n smart.
4. Dangosa i boteli鈥檙 ystafell molchi pwy di鈥檙 bos
Gellir ailgylchu'r rhan fwyaf o eitemau plastig yn y cartref gan gynnwys cynhyrchion ymolchi o鈥檙 ystafell ymolchi fel poteli siampw, cyflyrydd, sebon dwylo a gel cawod plastig. Pan fyddan nhw wedi gorffen, rhowch rinsiad iddyn nhw a'u rhoi yn eich cynhwysydd ailgylchu. Mae'n cymryd 75% yn llai o egni i wneud potel blastig o blastig wedi'i ailgylchu o'i gymharu 芒 defnyddio deunyddiau 鈥榗rai鈥, felly beth am warchod y blaned o'ch ystafell ymolchi drwy ailgylchu.
5. Chwalu鈥檆h chwistrellwyr听
Gellir ailgylchu pob math o ddiaroglyddion, siampw sych ac erosolau aer gwag. Mae metel yn anfeidrol sy'n golygu y gellir ei ailgylchu dro ar 么l tro heb golli dim o'i ansawdd. Ymunwch 芒'r 73% o bobl yng Nghymru sydd eisoes yn ailgylchu eu caniau erosol gwag.听
Dysgwch fwy yn: 听/ .
听