Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyn Ysbyty Cymuned y Fflint
Published: 22/02/2021
Bydd cynlluniau i ddatblygu cartref gofal newydd ar gyfer Y Fflint yn symud gam ymlaen yr wythnos nesaf wrth i waith听 ddechrau ar ddymchwel cyn Ysbyty Cymuned y Fflint.
Meddai Arweinydd ac aelod lleol Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts:
鈥淏ydd Ysbyty Cymuned y Fflint wastad yn rhan annatod o hanes balch y dref.听 Yn dilyn achos anffodus y tanau bwriadol, mae鈥檔 ddealladwy y bydd diddordeb parhaus yn nyfodol y safle wrth i waith ar ailddatblygu'r ardal fynd rhagddo yn y misoedd i ddod.听
鈥淏ydd y gwaith angenrheidiol o ddymchwel a chlirio yn cael ei wneud yn sensitif, gan fod rhaid i ni sicrhau bod yr ardal yn ddiogel wrth i ni ddatblygu ein cynlluniau ar gyfer y safle.
鈥淢ae鈥檙 Cyngor yn awyddus i ehangu ei amrediad o ddarpariaeth cartrefi gofal ac rydym yn ystyried cydweithio 芒鈥檙 Bwrdd Iechyd i ddarparu tua 55 o welyau mewn cartref gofal newydd ar safle'r cyn ysbyty, i gymryd lle cartref gofal presennol Croes Atti. Rydym yn cydnabod bod gan y staff a鈥檙 trigolion feddwl uchel o gartref presennol Croes Atti, ac yn gobeithio trosglwyddo鈥檙 ethos hwn i鈥檙 cyfleuster newydd.
鈥淩ydym hefyd yn gobeithio gweithio mewn partneriaeth 芒鈥檙 Bwrdd Iechyd i gynnig cyfleuster iechyd a gofal cymdeithasol 鈥渃am-i-fyny, cam-i-lawr鈥 ar y safle sy鈥檔 cael ei ailddatblygu. Fodd bynnag, dim ond ar gamau cynnar y broses hon ydym ni, ac mae angen i ni gydweithio鈥檔 agos 芒鈥檙 gymuned yn ardal Y Fflint a鈥檙 Bwrdd Iechyd i ddarparu cyfleuster o'r radd flaenaf sy'n parhau i gynnig y gofal gorau mewn lleoliad modern i drigolion Sir y Fflint.
鈥淏yddwn hefyd yn ceisio cynnwys Gardd Goffa yn y datblygiad, wedi鈥檌 chysegru i waith y cyn ysbyty bach鈥.
Meddai Rob Smith, Cyfarwyddwr Rhanbarth Gorllewinol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:
鈥淢ae angen dymchwel y safle er mwyn sicrhau ei fod yn ddiogel, ond mae hyn hefyd yn gam ymlaen tuag at ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol newydd i bobl Y Fflint. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth 芒 Chyngor Sir y Fflint i ddatblygu cynllun ar gyfer cyfleuster iechyd a gofal cymdeithasol newydd o fewn y cartref gofal newydd sy鈥檔 cael ei adeiladu ar y safle. Y nod yw cynnwys gwelyau gofal iechyd 鈥渃am-i-lawr鈥 o fewn y cartref gofal i ofalu am bobl sy鈥檔 gwella yn dilyn triniaeth yn yr ysbyty.听 Felly mae鈥檙 gwaith dymchwel yn creu potensial i ddatblygu rhan o safle'r cyn ysbyty yn gyfleuster iechyd a gofal cymdeithasol modern ar gyfer trigolion Sir y Fflint.鈥
听