Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Datblygu Uwchgynllun ar gyfer Shotton
Published: 11/02/2021
Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn trafod y potensial i ddatblygu Uwchgynllun ar gyfer ardal Shotton yn eu cyfarfod ddydd Mawrth 16 Chwefror.听
Mae Shotton yn un o brif drefi Sir y Fflint sydd 芒 chyfleusterau lleol da a chysylltiadau cludiant gwych i鈥檙 rhwydweithiau bysiau a threnau lleol a rhanbarthol, yn ogystal 芒鈥檙 rhwydweithiau teithio llesol a鈥檙 priffyrdd. Mae yna hefyd lawer o ardaloedd o fewn y dref sydd 芒 photensial sylweddol ar gyfer cyfleoedd i ddatblygu.听
Dros y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd nifer cynyddol o bryderon ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol a materion amgylcheddol eraill a allai ddifetha鈥檙 ardal os na fydd unrhyw un yn mynd i鈥檙 afael 芒 nhw.听 Mae鈥檙 rhain yn tanseilio ymdrechion lleol i gadw鈥檙 dref yn l芒n a thaclus ac i sicrhau bod pobl yn parhau i fod eisiau byw a gweithio yno, yn ogystal ag ymweld 芒鈥檙 dref.听
Er mwyn manteisio i鈥檙 eithaf ar y cyfleoedd posibl sydd ar gael, mae cynnig wedi dod i law i edrych ar y posibilrwydd o ddatblygu Uwchgynllun ar gyfer Shotton a fyddai鈥檔 cael ei oruchwylio gan Grwp Llywio a fyddai鈥檔 cynnwys Cynghorwyr Sir lleol a grwpiau o fudd-ddeiliaid lleol allweddol. Mae鈥檙 Cyngor eisoes wedi buddsoddi鈥檔 sylweddol yn yr ardal, gan gynnwys Hwb Cyfle (Canolfan Ddydd i Oedolion), a Phlas Derwen (Uned Cyfeirio Disgyblion) newydd sbon gwerth 拢11m, Ty Calon (Canolbwynt Cymunedol) ac adnewyddu Ysgol Gynradd Queensferry.听 Mae cynlluniau hefyd ar y gweill ar gyfer dyfodol Gorsaf Shotton a Chanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, ac mae hyn oll yn dangos ymroddiad tuag at ddyfodol yr ardal ehangach.
Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts:
鈥淢ae gan Shotton, fel cymuned, lawer o fanteision, yn ogystal 芒 materion mae angen i ni fynd i鈥檙 afael 芒 nhw.听 听Rydym yn gobeithio datblygu cynllun realistig y gall y gymuned allweddol hon yn ein sir ymgyrraedd tuag ati. Yn hyn o beth, mae鈥檔 hanfodol ein bod yn gwrando ar safbwyntiau鈥檙 gymuned wrth lunio鈥檙 Uwchgynllun.鈥澨
Dywedodd Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Derek Butler:
鈥淏yddai鈥檙 Cynllun yn dod 芒鈥檙 bobl iawn at ei gilydd, gan anelu at edrych ar ffyrdd i adfywio a chyflawni鈥檙 gwelliannau sydd eu hangen ar ganol y dref.听 Byddai hyn yn cynnwys edrych ar ffrydiau cyllido posibl i hwyluso鈥檙 gwaith.鈥
听