每日大瓜

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad Diweddariad ar y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP)

Published: 10/02/2021

Ddydd Mawrth 16 Chwefror gofynnir i Aelodau Cabinet Sir y Fflint nodi cynnydd gyda SHARP yn ogystal 芒 chefnogi llwybrau cyflawni newydd ar gyfer rhent cymdeithasol a fforddiadwy newydd.

Bydd aelodau hefyd yn ystyried y newidiadau yn yr angen o ran tai, a鈥檙 rhesymeg ar gyfer adolygu a diwygio鈥檙 mathau o ddeiliadaeth ar gyfer datblygiad eiddo yn y dyfodol.听

Roedd Sir y Fflint yn un o'r awdurdodau lleol cyntaf yng Nghymru i ail-gychwyn adeiladu tai cymdeithasol a thai fforddiadwy trwy SHARP, gan weithio gyda鈥檜 contractwr a benodwyd, Wates Construction, yn Ebrill 2016. Hyd yma, mae SHARP wedi cyflawni cyfanswm o 447 o eiddo cymdeithasol, fforddiadwy, perchnogaeth cartref cost isel a phreifat.听

Yn ogystal 芒 SHARP, mae鈥檙 Cyngor a Chartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru (鈥淣EW Homes鈥) wedi gweithio mewn partneriaeth gyda nifer o ddatblygwyr o Ogledd Cymru i adeiladu 148 o gartrefi cymdeithasol a rhent fforddiadwy.

Mae cyfanswm o 595 o gartrefi newydd wedi eu hadeiladu.

Mae'r Cyngor a NEW Homes yn datblygu ac yn defnyddio trefniadau eraill i wireddu dyheadau Llywodraeth Cymru ar gyfer darparwyr tai i adeiladu 鈥測n gyflym ac ar y raddfa gywir鈥 i fodloni鈥檙 galw cynyddol am dai fforddiadwy yn Sir y Fflint.

Hefyd, sefydlwyd Cytundeb Fframwaith Adeiladu Tai Gogledd a Chanolbarth Cymru gan Gynghrair Caffael Cymru i wneud caffael datblygiadau tai newydd yn fwy effeithlon ac i gydymffurfio 芒 rheolau caffael y sector cyhoeddus.

Defnyddir y fframwaith ar gyfer adeiladu pob math o dai, gan gynnwys byngalos, fflatiau a rhandai, cartrefi gofal a llety a rennir a thai gwarchod, yn cynnwys bob ffurf o ddeiliadaeth.

Meddai鈥檙 Cynghorydd Dave Hughes, Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint:

鈥淢ae SHARP wedi bod yn llwyddiannus iawn a rhaid i ni beidio 芒 cholli momentwm wrth iddo ddod i ben.听 Mae angen i ni fod yn hyblyg ac addasu i鈥檙 gofynion lleol am dai.听 Dyna pam rydym yn cydweithio i wella cyfleoedd tai i bobl sydd ag anghenion penodol, er enghraifft, pobl sy'n gadael gofal, pobl ag anawsterau dysgu neu bobl sydd angen addasiadau.鈥