Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Datganiad y Cyngor ar y Gyllideb
Published: 10/02/2021
Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn cwrdd yn ddiweddarach y mis hwn i wneud argymhellion terfynol ar gyfer gosod cyllideb gytbwys ar gyfer 2021/22.
Mae Sir y Fflint wedi gwneud 拢100 miliwn o arbedion dros y ddegawd ddiwethaf i wneud y cyngor mor effeithlon 芒 phosibl ac i warchod gwasanaethau rheng flaen rhag toriadau niweidiol i鈥檙 gyllideb. Eleni, mae鈥檙 cyngor yn bwriadu cynyddu buddsoddiad mewn ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol er mwyn cadw i fyny gyda graddfa a chymhlethdod y galw ar gyfer gwasanaethau.
Mae鈥檙 cyngor yn glir nad yw cynnydd blynyddol o 5% neu fwy yn Nhreth y Cyngor yn dderbyniol bellach. Yn unol 芒 hynny, eleni mae鈥檙 cyngor yn bwriadu cadw鈥檙 cynnydd blynyddol yn Nhreth y Cyngor o dan 4%. Bydd hyn yn gyfystyr 芒 chynnydd wythnosol ar eiddo Band D o oddeutu 拢1.00 yr wythnos.
Mae Sir y Fflint, fel pob cyngor, yn dibynnu鈥檔 fawr ar Lywodraethau i gyllido鈥檙 gwasanaethau cyhoeddus yn iawn ar 么l blynyddoedd o galedi a thoriadau yn y sector cyhoeddus ar lefel genedlaethol. Bydd y setliad arfaethedig ar gyfer llywodraeth leol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2021/22 yn helpu鈥檙 Cyngor i gydbwyso ei gyllideb ond prin yw鈥檔 ddigonol ar gyfer ei anghenion.
Fel yr adroddir yn aml, nid yw arbedion effeithlonrwydd newydd ar raddfa fawr yn bosibl. Fodd bynnag, trwy rheolaeth ariannol darbodus, mae鈥檙 Cyngor wedi gallu gwneud arbedion effeithlonrwydd pellach o bron i 拢2.0 miliwn er mwyn cynorthwyo i gydbwyso鈥檙 gyllideb.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor a鈥檙 Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid, y Cynghorydd Ian Roberts:
鈥淯chelgais y Cyngor yw cynyddu鈥檙 swm o gyllid rydym yn ei ddyrannu i ysgolion, ac yn arbennig ysgolion uwchradd gan fod eu cyllidebau o dan bwysau mawr, ac ar yr un pryd, ceisio cadw cynnydd yn Nhreth y Cyngor i lefel fforddiadwy.听
鈥淓in safbwynt hir-sefydledig yw bod angen i鈥檙 Llywodraethau sicrhau bod awdurdodau lleol yn cael eu cyllido yn ddigonol. Rhaid i Lywodraethau sicrhau y gall awdurdodau lleol fod yn gadarn. Ac mae hynny鈥檔 arbennig o wir rwan, yng nghanol sefyllfa argyfyngus estynedig.听
鈥淐ydnabyddwn a gwerthfawrogwn ymrwymiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud i gyllido llywodraeth leol trwy鈥檙 sefyllfa argyfyngus trwy鈥檙 Gronfa Galedi a鈥檙 Gronfa Colli Incwm. Rydym angen y cymorth ariannol i barhau i mewn i 2021/22 gan fod yr argyfwng yn dal i fodoli.鈥
Dywedodd y Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet Cyllid Cyngor Sir y Fflint:
鈥淓r gwaethaf heriau鈥檙 sefyllfa argyfyngus barhaus, mae鈥檙 cyngor wedi gallu cyflwyno cyllideb gytbwys. Eleni bydd y cyngor yn gwneud buddsoddiad sylweddol i ysgolion gyda chynnydd o 3.6% ar y llynedd.听
鈥淩ydym yn gyngor cyllid isel sy鈥檔 gwneud defnydd effeithlon o鈥檔 hadnoddau yn 么l ein rheoleiddiwr ariannol Archwilio Cymru.鈥
Meddai Prif Weithredwr y Cyngor, Colin Everett:
鈥淩ydym wedi cymryd dull darbodus a chytbwys i鈥檔 cyllideb flynyddol, yn 么l gofyniad y gyfraith ac egwyddorion llywodraethu da, wrth ddiogelu blaenoriaethau鈥檙 Cyngor. Mae hwn yn gyllideb cytbwys iawn. Mae ein holl wasanaethau rheng-flaen wedi cael eu diogelu.
鈥淢ae nifer o risgiau agored yn parhau i gael eu rheoli, ac eto byddwn yn cael ein herio i gydbwyso ein cyllideb yn ystod y flwyddyn trwy gydol 2021/22. Mae ein henw da am fyw o fewn ein gallu unwaith i ni osod cyllideb ar gyfer y flwyddyn yn un cryf.鈥
听