Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Sir y Fflint yn chwifio鈥檙 faner
Published: 03/02/2021

Mae Cyngor Sir y Fflint yn codi'r faner enfys y tu allan i Neuadd y Sir unwaith eto eleni i gefnogi mis hanes pobl lesbiaid, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LGBT+) yn ystod mis Chwefror.听
Mae'r digwyddiad blynyddol hwn yn rhoi cyfle i bobl ddysgu mwy am hanes a chyflawniadau pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol a'r mudiad hawliau pobl hoyw a hawliau sifil.听
Mae hyn hefyd yn adeg i gofio am y camwahaniaethu y mae llawer wedi鈥檌 wynebu a鈥檙 siwrnai a wnaed tuag at gydraddoldeb LGBT+.听
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet dros Reolaeth Gorfforaethol a Phencampwr Diogelu鈥檙 Cyngor:
鈥淢ae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi mis hanes LGBT+ unwaith eto. Mae chwifio'r faner drwy gydol mis Chwefror yn anfon neges glir ein bod wedi ymrwymo i gydraddoldeb i bawb, o fewn y Cyngor a'n cymuned ehangach鈥.
Thema eleni yw 鈥淐orff, Meddwl, Ysbryd鈥.听听
I gael rhagor o wybodaeth ewch i鈥檙 wefan听.
听